Dydd Llun yn Eisteddfod yr Urdd

Croeso i flog byw Bro360 – dilynwch ni gydol y dydd i weld hynt helynt pobol ifanc Arfon a Cheredigion.

16:11

Yn anffodus dyw Ysgol Penparc heb gael llwyfan yn yr côr Blwyddyn 6 ac iau.

Ond ry’n ni wedi joio canu Cân y Botymau!

Pob lwc i ymgom Ysgol Penparc fory, sef Ifan,Bronwen ac Gwen.

15:40

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Unawd Cerdd Dant Bl. 5 a 6

3ydd: Alwena Owen, Ysgol Bro Teifi, Ceredigion

15:39

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Cân actol Bl. 6 ac iau

1af: Ysgol Gynradd Plascrug, Ceredigion

15:36

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Unawd Cerdd Dant bl. 3 a 4

1af: Ela Mablen Griffiths-Jones – Ysgol Gynradd Aberaeron, Ceredigion

 

Cystadleuaeth: Llefaru Unigol bl. 3 a 4

1af: Gwenno Beech, Ysgol Gynradd Llanllechid, Eryri

2il: Ela Mablen Griffiths-Jones, Ysgol Gynradd Aberaeron, Ceredigion

15:31

Ydych chi’n yn yr Eisteddfod heddiw? Dewch lawr i’r Senedd i gael eistedd yng nghadair bwysig Elin Jones.

Buon ni – Siwan ac Esyllt – yna bore ma!

 

15:26

CANLYNIAD!

Cystadleuaeth: Cerddorfa / Band bl. 6 ac iau

1af i Ysgol gynradd Bontnewydd, Eryri

14:50

14:05

CANLYNIAD!

Cystadleuaeth: Ensemble offerynnol

2il i Ysgol Llandwrog

 

Cystadleuaeth: Parti Unsain

3ydd i Ysgol Llandwrog!

 

Llongyfarchiadau, a diolch i’n gohebwyr bro, Gwion a Dafydd, am y newyddion!

14:03

Mae Bwca wedi bod yn cael eu ymarfer olaf bore ma cyn teithio lawr i Steddfod yr Urdd fory er mwyn chwarae ar y Llwyfan Perfformio am 3 o’r gloch.

Diolch Steff am y llun. Oes rhywun arall wrthi’n pacio i ddod lawr i’r Bae?

Rhowch wbod – #Bro360

12:10

Paratoi!

Parti Padarn yn ymarfer cyn y diwrnod mawr (Parti Unsain Bl6 ac iau).
Pob lwc fory!