Mae arweinwyr Pwyllgorau Cronfa Leol Eisteddfod Ceredigion wedi dod ynghyd i gynllunio sut gall ymweliad yr ŵyl genedlaethol adael gwaddol yn eu bro.
Gyda’r gobaith yn dal ynghyn y bydd Ceredigion yn fwrlwm o weithgarwch fis Awst nesa, daeth criw brwd o bob cwr o’r sir ynghyd ar Zoom i gymryd rhan mewn sesiwn dan arweiniad Prosiect Fory.
Yn y sesiwn, cafodd pawb eu hannog i feddwl sut y gallwn ni ddefnyddio’r bwlch anarferol yma o amser cyn wythnos yr Eisteddfod i adnabod anghenion ein cymdogaethau, a datblygu prosiectau lleol-iawn i ateb yr anghenion hynny.
Gyda’r pwysau i godi arian ar ben; codi hwyl, codi brwdfrydedd dros y Gymraeg a chodi’r uchelgais i wneud gwahaniaeth go iawn i’n bro yw’r nod. I fuddsoddi yn y dyfodol.
Cynhaliwyd sesiwn enghreifftiol gyda’r arweinwyr ar nos Lun 9 Tachwedd – rhannwyd patrwm o gwestiynau y gall bawb eu dilyn gyda’u criw lleol nhw. Gan ddechrau gydag adnabod yr asedau rydym yn adeiladu arnynt, aed ymlaen i drafod y pethau heriol mewn cymdeithas, cyn meddwl am syniadau am brosiectau i’w cynnal.
Dyma syniad o sut i gynnal sesiwn o’r fath yn eich ardal chi:
Patrwm sesiwn ‘Gwaddoli-i-fuddsoddi’
I ddechrau, i annog pawb i feddwl beth yw ‘gwneud gwahaniaeth’, gallech holi:
- Beth yw gwaddoli?
- Beth yw buddsoddi?
Wrth adnabod eleni fel cyfle, oherwydd bod gennym amser anarferol cyn yr Eisteddfod, yna gallwch holi’r 3 prif gwestiwn, yn y drefn yma:
- PETHAU I ADEILADU ARNYNT – Beth ry’n ni eisoes wedi’i gyflawni fel pwyllgor? A beth yw’r asedau neu sgiliau sydd wedi ein galluogi i wneud hynny?
- HERIAU – Beth sy’n profi’n anodd (i ni fel Pwyllgor a hefyd fel cymdogaeth)?
- SYNIADAU – Sut allwn ni adeiladu ar ein cryfderau i oresgyn rhai o’r heriau? H.y. i waddoli-i-fuddsoddi
Cynhaliwyd y sesiwn gan Prosiect Fory mewn cydweithrediad â Phwyllgor Gwaith Eisteddfod Ceredigion – ac fe wnaeth y syniad gwreiddiol ddeillio o un o sgyrsiau cychwynnol Prosiect Fory yn yr haf.
I ddysgu mwy am sut i gynnal sesiwn ‘gwaddoli-i-fuddsoddi’, cysylltwch â Lowri ar lowrijones@golwg.com.
Pwy yw Prosiect Fory?
Ni yw Prosiect Fory – bawb sydd am fod yn rhan o’r symudiad tuag at y dyfodol.
Mae’r fenter yn cael ei harwain gan bartneriaeth rhwng Radio Beca a Bro360. Nod y ddau yw rhoi’r grym i bobol siapio cymdeithas trwy ysgogi trafodaeth am syniadau, a galluogi darlledu’r syniadau hynny er mwyn eu rhannu’n eang.