Beth yw eich barn am y wefan hon?

Arolwg byr i holl ddarllenwyr, cyfranogwyr ac aelodau criwiau llywio’r gwefannau bro ei gwblhau

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Oes digon o straeon difyr ar eich gwefan fro?

Yw hi’n hawdd ei defnyddio?

Pa mor debygol yw hi y bydd y wefan yn parhau ar ôl diwedd y prosiect peilot ym mis Mawrth 2022?

Dyna rai o’r cwestiynau yr hoffai tîm Bro360 eu holi i chi – pawb sy’n defnyddio’r wefan hon – o ddarllenwyr, gwylwyr a gwrandawyr i gyfranogwyr.

A fyddech chi’n barod i gwblhau’r arolwg byr yma?

Diolch yn fawr am roi o’ch amser i’n helpu ni i wella’ch gwefan fro.