Mae Caron360 yn fyw!

Cyhoeddi gwefan straeon lleol pobol Tregaron a’r cylch

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Fe fyddai hi wedi bod gered o gwmpas Tregaron nawr, petai Covid heb ein taro, gyda phobol leol yn rhedeg o un man i’r llall yn paratoi i groesawu Cymru gyfan i’w bro!

Er mai aros blwyddyn fydd raid cyn cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn y dre, nid yw popeth wedi dod i stop. Yr wythnos hon, daeth criw o bobol leol ynghyd (yn ddigidol) i greu gwasanaeth newydd i’r fro gyfan. Gwasanaeth ar-lein i bobol y fro gael rhannu straeon am bopeth sy’n bwysig iddyn nhw.

>>> Mae gwefan straeon lleol Caron360 yn fyw! <<<

Gwefan sy’n berchen i bobol Tregaron a’r cylch yw Caron360. Gall pawb sy’n byw yn yr ardal greu cyfrif, a chreu straeon – o hynt a helynt mudiadau, i newyddion, i drafod pynciau llosg y fro.

Y gymuned leol sy’n creu, golygu a hyrwyddo’r straeon, gyda chymorth gan Ysgogydd prosiect Bro360 a fydd yn eu rhoi ar ben ffordd, cynnig hyfforddiant ac annog syniadau.

Straeon amrywiol yno’n barod

Nid straeon testun yn unig sy’n bosib. Eisoes dros y diwrnodau diwethaf mae Anna o Ledrod wedi cyhoeddi fideos Sialens Strictly, mae Dan o Langeitho wedi cyhoeddi oriel luniau o’i daith i Ohio, a chyhoeddodd Nest o Ledrod stori am y Tregaroniaid i gael eu derbyn i’r orsedd.

Ar ben hyn, mae ’na dair stori am ymdrechion gwahanol fudiadau ac unigolion i godi arian i achosion da. Mae’r wefan eisoes yn rhoi llwyfan i gyhoeddi cymaint o waith da a phwysig sy’n cael ei wneud gan y gymuned leol.

Eich gwefan chi – y bobol leol

Mae’r wefan bellach yn barod i dderbyn eich straeon chi!

Beth sy’n digwydd yn y fro… neu beth sydd ar y gweill wrth i’r cyfyngiadau lacio? Oes materion lleol sydd angen eu trafod? Oes ’na gyfle i ddathlu llwyddiannau lleol?

Os nad ydych am greu straeon, mae ’na ffyrdd eraill y gallech gymryd rhan. Gallwch ymuno â’r tîm trwy helpu i rannu straeon a defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’r fro. Neu a ydych chi’n gwybod be sy mlaen yn lleol, ac yn nabod pobol eraill allai fod yn creu stori fach? Croeso i chi helpu yn y modd hwnnw hefyd!

Cysylltwch â Daniel – Ysgogydd Bro360 yn ardal Ceredigion – ar danieljohnson@golwg.com i roi gwybod bod gennych ddiddordeb mewn manteisio ar y cyfrwng newydd cyffrous yma.

Maes o law, bydd y wefan yn datblygu’n blatfform i hyrwyddo busnesau lleol hefyd – i roi arfau digidol fydd yn helpu busnesau bach gystadlu â’r busnesau mawrion ar-lein, a chryfhau’r economi leol.

Ble yw bro Caron360?

Ar ôl hir drafod, penderfynodd y criw lleol mai rhywbeth tebyg i hyn yw siap y fro. Os ydych chi’n byw yn yr ardaloedd hyn, dyma’ch gwefan fro chi!

  • Bethania
  • Blaenpennal
  • Bronant
  • Bwlch-llan
  • Ffair-rhos
  • Gwnnws
  • Llanddewi Brefi
  • Llangeitho
  • Llanio
  • Lledrod
  • Llwynpiod
  • Llwynygroes
  • Penuwch
  • Pont-rhyd-y-groes
  • Pontrhydfendigaid
  • Swyddffynnon
  • Tregaron
  • Tynygraig
  • Ysbyty Ystwyth
  • Ystradmeurig

 Sut mae creu stori?

  1. Mynd i Caron360.cymru a phwyso’r botwm Ymuno (i greu cyfrif)
  2. Pwyso Creu > Stori (neu oriel, fideo neu sain)
  3. Sgwennu pennawd, pwt o stori a lanllwytho eich llun(iau), fideos ac ati
  4. Pwyso’r botwm ‘cyflwyno i’r gyhoeddi’
  5. Cewch neges ebost i ddweud pan fydd eich stori’n fyw ar Caron360!

Mae Caron360 yn ymuno â chwe gwefan arall yng Ngheredigion ac ardal Arfon sy’n rhan o brosiect peilot Bro360 – BroAber360, BroWyddfa360, Caernarfon360, Clonc360, DyffrynNantlle360 ac Ogwen360.