Ymestyn y gwefannau bro i gymunedau Sir Gâr a Gwynedd?

Cronfa Her ARFOR yn rhoi’r cyfle i ni wneud ymchwil gyda chymunedau

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Oes gennych chi brofiad o ymgysylltu â chymunedau?

Mae darn o waith newydd gan Golwg dros y 6 mis nesaf – i wneud ymchwil gydag unigolion, grwpiau a busnesau mewn 2 ardal i ddarganfod yr awydd i sefydlu gwefannau bro.

Yr ardaloedd ydy Gwynedd (namyn Arfon!) a Sir Gâr. Byddwn ni’n croesawu ceisiadau gan unigolion/mentrau sydd am wneud y gwaith cyfan neu ddewis un ardal.

Cysylltwch i gael copi o’r brîff.

Diolch i Gronfa Her ARFOR am y cyfle i wneud y gwaith cychwynnol pwysig yma gyda’r cymunedau.