Bydd cyfle i bobol ardal Wrecsam ddod ynghyd i wneud gwahaniaeth i’w cymuned wythnos nesa.
Mae croeso i bobol yr ardal ymuno â thîm Bro360 ar nos Fercher 17 Ebrill i ddechrau casglu syniadau am brosiectau neu adnoddau digidol all fod o fudd yn lleol – i’r Gymraeg, i’r economi ac i gymdeithas yn gyffredinol.
Un o’r pethau posib y bydd modd ei ddatblygu ydy gwefan fro, sef platfform ar gyfer straeon lleol gan bobol leol.
Pe bai’r gymuned yn dewis gwefan fro fel eu prosiect, byddent yn ymuno â 13 o ardaloedd eraill ar draws Arfon, Ceredigion a Môn sydd eisoes yn rhan o rwydwaith gwefannau Bro360 – a dyma fyddai’r wefan gyntaf yn y dwyrain.
Mae’r cyfle’n codi diolch i brosiect Ymbweru Bro.
Mae Ymbweru Bro yn esblygiad i gynllun Bro360 – sef cynllun a oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar helpu cymunedau yn Arfon a Cheredigion i greu a chynnal eu gwefannau bro eu hunain.
Yn dilyn llwyddiant nifer o’r gwefannau bro cyntaf – sy’n cynnwys gweld Clonc360 yn ennill gwobr genedlaethol Newyddiaduraeth Gymunedol y Flwyddyn – mae nifer o ardaloedd newydd wedi galw am gael ymuno â’r prosiect.
Er bod Ymbweru Bro yn ddatblygiad naturiol i brosiect y gwefannau bro, mae am fod yn cynnig llawer mwy na gwefan straeon lleol i’r cymunedau fydd yn cymryd rhan.
Y cymunedau eu hunain fydd yn penderfynu beth sydd ei angen yn lleol o safbwynt cymdeithas a’r Gymraeg, a rôl y prosiect fydd ysgogi gweithgarwch cymunedol i ymateb i’r angen a’r potensial. Mewn un ardal gallai droi’n brosiect democratiaeth gyda phobol ifanc; mewn ardal arall gall ymwneud â rhoi hwb i fusnesau bach; ac mewn cymuned arall gall helpu i ddatblygu arweinwyr y dyfodol.
O lwyddo, gall y prosiect wneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymdeithas, i’r Gymraeg ac i’r ymdeimlad o berthyn i ardal. Bydd Ymbweru Bro yn cyfuno pobol ar lawr gwlad, cyfryngau a meddwl creadigol i greu rhaglen o brosiectau cyffrous i sbarduno gweithgarwch yn y cymunedau fydd yn gweithio gyda ni.
Croeso i bobol dinas a sir Wrecsam i Saith Seren, nos Fercher 17 Ebrill am 6.30pm i ddechrau arni.