Ymbweru Bro: hwyluso pethau i bobol brysur

Cofrestrwch i glywed i mwy am y prosiect sydd am helpu i gryfhau cymunedau

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Os ydych chi’n aelod o fudiad…

Neu’n trefnu digwyddiad…

Neu’n berson prysur yn cynnal pethau’n lleol…

Mae Ymbweru Bro yma i chi.

Beth?

Cynllun gan gwmni Golwg ydy Ymbweru Bro. Dros gyfnod o bum mlynedd bydd y tîm yn gweithio gyda chi – bobol leol – i siapio’r prosiect.

Gyda’n gilydd, byddwn yn darganfod sut gallwn ddefnyddio cyfryngau, cynnwys, adnoddau ar-lein a phrosiectau i wneud pethau’n haws i bawb sy’n brysur yn gwneud i bethau ddigwydd yn eu bro.

O ap hyrwyddo digwyddiadau i gymorth codi arian; o syniadau ar gyfer rhaglen clwb i adnodd denu gwirfoddolwyr, dim on rhai syniadau ydy’r rhain o’r pethau allai gael eu creu gan y prosiect, ac mae mwy o syniadau yma.

Pam?

Er mwyn cynyddu ymdeimlad berthyn, hybu’r defnydd o’r Gymraeg, rhaeadru a rhannu sgiliau a chryfhau’r economi leol. Er mwyn sbarduno meddwl creadigol, a chynnig ffordd gadarnhaol a chynaliadwy o gynnal cymdeithas.

Ble?

Ym Môn, Gwynedd, Wrecsam, Ceredigion, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd i ddechrau. Ond, bydd cyfle gan ardaloedd eraill ymuno yn yr hwyl yn ystod cyfnod y prosiect, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymuned y Loteri – Pawb a’i Le.

I bwy? Chi!

I gofrestru eich diddordeb neu gyfrannu syniad – fel unigolyn neu ar ran clwb/cymdeithas – llenwch yr holiadur byr yma.

Yna, fe fyddwch chi gyda’r cyntaf i glywed am gyfleoedd i fanteisio ar Ymbweru Bro.

Edrychwn ymlaen at weithio’n gyda’n gilydd i hwyluso pethau dros y misoedd nesaf!