Syniadau Eisteddfodau

Ychydig syniadau i’ch ysbrydoli

gan Bethan Lloyd Dobson

Efallai’n wir mai gwlad fechan ydi Cymru, ond mae hi’n unigryw mewn sawl ffordd. Un o’r pethau sy’n cyfrannu at hynny ydi’r eisteddfodau. Yr eisteddfodau hynny sy’n cael eu cynnal mewn pentrefi yng nghefn gwlad Cymru benbaladr.

Unigolion, fel chi, sy’n rhoi o’u hamser yn wirfoddol i sicrhau bod yr eisteddfod leol yn llwyddiant ac yn parhau i fod yn rhan o galendr yr ardal a chylchdaith flynyddol cystadleuwyr.

Ac wrth sôn am y calendr, mae’n  debyg bod llawer ohonoch eisoes yn hysbysebu eich eisteddfod ar calendr360, y digwyddiadur ar-lein. Mae’n ffordd dda a chyfleus o ledaenu’r digwyddiad yn genedlaethol a gyda chynulleidfa leol eich gwefan fro. Os nad ydych yn gwneud hyn yn barod, wel manteisiwch ar yr adnodd trwy ‘ychwanegu digwyddiad’.

Mae’n siŵr y byddwch yn rhoi crynodeb o’ch eisteddfod rhwng gloriau’r papur bro. Ond beth am roi peth o’r hanes ar eich gwefan fro yn ogystal? Byddai darllenwyr wrth eu bodd yn darllen y straeon hyn.

Does dim rhaid i’r ddeubeth fod yr un fath, mae hynny i fyny i chi. Efallai y bydd eich cyfraniad i’r papur yn rhoi canlyniadau yr holl gystadlu, tra ar eich gwefan fro mae modd i chi roi pigion.

Dyma i chi dri chyfraniad sy’n enghreifftiau gwahanol, a’r tri yn hynod ddifyr a gwerth eu darllen.

  • Aeth criw Eisteddfod Llanllyfni ati i gynnwys ychydig gefndir am enillydd y gadair, cynnwys y feirniadaeth a’r gerdd fuddugol ar eu gwefan fro, DyffrynNantlle360

https://dyffrynnantlle.360.cymru/2024/eisteddfod-agored-llanllyfni/

  • Ar Aeron360 rhannwyd ambell lun da a chanlyniadau yn dilyn rhai o ddisgyblion Ysgol Ciliau Parc fu’n cymryd rhan yn  Eisteddfod Cylch yr Urdd.

https://aeron.360.cymru/2024/03/07/eisteddfod-gylch-ysgol-ciliau-parc/

  • Ar Clonc360 roedd blog byw o Eisteddfod Capel y Groes yn llawn lluniau a chanlyniadau trwy gydol y dydd, i ddod â’r cyffro’n fyw i bobol adre.

https://clonc.360.cymru/2024/eisteddfod-capel-groes-2024-2/

  • Ac aeth y disgyblion oedd yn Eisteddfod yr Urdd rhanbarth Môn i hwyl yn ddiweddar, am y gorau i bostio lluniau a fideos ar flog byw Môn360!

https://mon.360.cymru/2024/03/16/eisteddfod-cynradd-ynys/

Mae ymwelwyr y gwefannau bro’n mwynhau pob cyfraniad eisteddfodol, felly mentrwch ac ewch amdani – ymunwch â’ch gwefan fro heddiw a phwyso’r botwm Creu!