Ddiwedd mis Gorffennaf eleni, cyhoeddwyd stori o’r enw Cau Ysbyty Tregaron ar Caron360.
Ychydig ddyddiau’n gynharach clywodd staff yr ysbyty cymunedol ar Heol Dewi am fwriad Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ystyried cau Ysbyty Tregaron ym Mis Medi eleni.
Ar ôl clywed y si aeth un o ohebwyr bro gwirfoddol Caron360 – Gwion James – i ymchwilio ymhellach a chanfod bod gwirionedd i’r stori. Roedd ymgynghoriad ar y gweill, ac fe rannodd ddolen i dudalen adborth ‘Have your say’ gan annog pobol leol i ymateb i’r ymgynghoriad.
Denodd y stori sylw’r Aelod o’r Senedd, a drefnodd gyfarfod brys gyda’r Bwrdd Iechyd wedi iddi glywed y gallai’r ysgol gau.
Yr wythnos hon, cafwyd cadarnhad bod y bwrdd iechyd wedi penderfynu cau’r naw gwely yn yr ysbyty.
Diolch Gwion a chriw Caron360 am ohebu ar faterion lleol pwysig.