Fy siwrne Gymraeg…. hyd yn hyn.
Helo, Emma dw i, a dwi isio rhannu fy stori Gymraeg efo chi. Mi wnes i weithio fel nyrs am dros hugain mlynedd, ond ar ôl y pandemig- fel llawer o bobl eraill- mi wnes i benderfynu roedd hi’n amser i wneud rhywbeth arall efo fy mywyd.
Roedd hi’n haws i ni. Ar ôl pedwar deg mlynedd mi wnaethon ni wrando ar hiraeth fy’n ngŵr, a symud yn ôl i’r pentre bach lle gaeth o ei eni a’i fagu- Garndolbenmaen.
Mi wnaethon ni symud yn 2021. Bob diwrnod dan ni’n mynd tu allan i’r ardd, edrych o gwmpas ar Yr Wyddfa, neu Crib Nantlle. Dan ni’n gwrando ar yr adar, y defaid (does dim byd arall i’w glywed), a dan ni’n dweud “dan ni’n lwcus iawn dydan?” Ac rydan ni!
Roedd hi’n bwysig iawn i mi i siarad yr iaith a sgwrsio efo teulu, ffrindiau a phobl yn y pentre yn eu iaith nhw. Dwi’n dysgu bob wythnos ym Mwllhelli, ond doedd dysgu’r iaith ddim digon i mi. Ron i isio dysgu mwy am y bobl, am y tir, y wlad a’r peth mwya pwysig – yr hanes. Yndy, mae hi’n anghyfforddus, ond mae hi’n bwysig i mi i ddallt y gorffennol.
Llynedd, mi es i am dro efo Menter Iaith o Gricieth i Borthmadog ar hyd y llwybr arfordir. Mi wnes i fwynhau yn fawr iawn. Erbyn i mi gyraedd adra, dw i wedi penderfynu bod rhaid i mi gerdded yr holl lwybr o arfordir Cymru.
Heddiw dwi’n 670 milltir i mewn, dim ond 200 milltir i fynd. Dwi’n cerdded ar ben fy hun, ond dim ond os mae’r tywydd yn braf – fair weather walker dw i! Beth ydy’r atyniad? Wel, golygfedd arbennig, llawer o natur, a chanrifoedd o hanes. Beth dwi mynd i wneud nesa? Clawdd Offa? Taith Pererin Gogledd Cymru? Llwybr y Cambrian? Dwi ddim yn siŵr, ond dwi’n siŵr am rhywbeth- dwi’n teimlo cysylltiad efo Cymru, efo’r bobl, ac efo’r tir.
Un darn o gyngor – wel mae’n syml. Defnyddia dy Gymraeg. Mae hi’n bwysig ac mae’n dangos ein parch at yr iaith a’r Cymry..