Pleidlais ‘Barn y bobol’ y gwefannau bro ar agor

Pleidleisiwch dros eich hoff stori leol gan bobol leol yn ystod 2023

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Steddfodau, teyrngedau, a locafôr…iau?!

Bob blwyddyn, mae’r cyhoedd yn cael cyfle i bleidleisio am eu hoff stori leol o’r flwyddyn aeth heibio.

Eleni, mae 13 stori ar y rhestr fer, sef y straeon mwyaf poblogaidd ar bob un o’r gwefannau bro.

Mae’r straeon yn amrywio o flogiau byw o eisteddfodau, i erthyglau barn, i hanes digwyddiadau cymdeithasol. Mae yma stori am fusnes newydd, adduned blwyddyn newydd, a rôl newydd i berson lleol adnabyddus.

Mae pob stori wedi’u cyhoeddi gan bobol leol – gwirfoddolwyr llawr gwlad sy’n manteisio ar eu gwefan fro i rannu newyddion lleol.

Hanes y gwobrau

Caron360 enillodd Barn y Bobol y llynedd, gyda’r stori am yr ymdrech leol i adeiladu Cylch Cofio’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, a darn barn am dref Bethesda gafodd ei dewis yn 2022.

Ond gyda 4 gwefan fro newydd yn y botes eleni, pwy fydd yn fuddugol yn 2024?

Chi sy’n penderfynu!

Pleidleisio

Cymerwch olwg ar y straeon yn y rhestr, a phleidleisiwch heddiw am eich hoff stori leol cyn hanner nos ar 28 Ionawr 2024.

Pleidleisio rŵan / nawr!