Oriel Caffi Croesor: Agor Drysau i’r Dyfodol

prosiect Grymuso Gwynedd

Hwb Croesor
gan Hwb Croesor

Mae ein prosiect Oriel Caffi Croesor: Agor y Drysau yn mynd o nerth i nerth ac un peth mae wedi galluogi i ni ei wneud ydi ceisio am arian ar gyfer y pethau hanfodol i fynd â ni yn ein blaenau!

Ar ddechrau’r flwyddyn, mi oedden ni’n teimlo ei bod braidd yn rhyfedd bwrw ymlaen efo “syniadau mawr” cyn trwsio a gwella rhai o’r problemau cyson tu mewn ac o gwmpas Oriel Caffi Croesor. Mi fuon ni’n llwyddiannus efo cais Grymuso Gwynedd Menter Môn ac mi ydan ni wedi medru cyflogi sawl busnes lleol, dafliad carreg o Groesor, i ymgymryd â’r gwaith trwsio – Original Roofing Company Cymru, Llechen Lân, KW Jones Civil Contractors & Plant Hire, Arthur Povey – yn ogystal â dod â gwirfoddolwyr at ei gilydd i wneud gwaith cynnal a chadw fel gosod paneli tŷ gwydr newydd ag ail-olewu ffenestri a drysau y caffi.

Dan ni hefyd wedi llwyddo i gael ymgynghoriad ynni llawn gan EGNI Energy Solutions trwy law Adra. Mae’r gwaith yma i gyd wedi rhoi sylfaen dda i ni at y dyfodol!

Diolch i’n cyllidwyr, yr holl fusnesau sydd wedi ein helpu hyd yn hyn a’r gymuned leol wrth gwrs!

Cadwch eich llygaid allan am ddiwrnod ymgysylltu yr Hydref hwn, yn ogystal â ddathliad o’r holl waith yma yng Nghroesor ar y 5ed o Hydref!

Dilynwch ein facebook/instagram am ddiweddaradiau – hwbcroesor

Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu trwy un o raglenni Menter Môn, sef Grymuso Gwynedd, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA) / This project is funded through one of Menter Môn’s programmes, Grymuso Gwynedd, which has been funded by the UK Government through the UK Shared Prosperity Fund, with financial support also from Nuclear Restoration Services (NRS) on behalf of the Nuclear Decommissioning Authority (NDA).