Shwmae. Haia. Bore da, neu p’nawn da. Kierion dw i. Dysgwr dw i.
Yr wythnos hon yw ‘Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg’. Roedd ddoe yn Ddiwrnod Shwmae Su’mae. Gofynnodd Bro360 i mi ysgrifennu am fy mhrofiad o ddysgu’r Gymraeg.
Tipyn bach amdana i. Mi ges i fy ngeni yn Aberhonddu yn Ne Cymru. Roedd fy nhad yn y fyddin, felly ro’n ni’n symud o gwmpas llawer – ges i fy magu y tu allan i Gymru ar safleoedd y fyddin yn Lloegr, Gogledd Iwerddon ac yn yr Almaen.
Er na ches i fy magu yng Nghymru, a doeddwn i ddim yn dod o deulu sy’n siarad Cymraeg dw i’n gallu cofio’n deud wrth bobl bo’ fi’n Gymro ac yn dod o Gymru.
Dychwelodd fy nheulu i Aberhonddu yn y 90au cynnar, a dreulion ni 5 mlynedd yno. Es i i ysgol gynradd yn Aberhonddu, lle ges i un awr o Gymraeg bob wythnos (yn bendant dim digon, yn fy marn i!). Ar ôl ein 5 mlynedd yn Aberhonddu, symudon ni eto i Essex a doedd ‘na ddim mwy o wersi Cymraeg.
Symudodd fy nheulu i ardal Wrecsam yng Ngogledd Cymru yn 2002- dyma oedd y symudiad olaf efo’r fyddin.
Ymlaen yn gyflym i 2010 – ro’n i’n byw yn Seland Newydd. Dw i’n cofio siarad â phobl a fyddai’n gofyn “O le wyt ti’n dod?” ac “Wyt ti’n siarad Cymraeg?”. Roedd rhaid i mi ddeud “Na”.
Ar y pryd, wnes i wybod y basics – ‘Helo’, ‘Bore Da’, ‘Sut wyt ti?’, ‘Dw i ddim yn hoffi coffi’, ac ati. Wnes i ddysgu Hen Wlad Fy Nhadau a Calon Lan, ond do’n i ddim yn gallu cael sgwrs go iawn yn y Gymraeg. Roedd hyn yn codi cywilydd arna i. Roeddwn i wastad wedi bod isio gallu siarad Cymraeg, a ro’n i’n credu bo’ fi wedi colli allan ar y cyfle pan o’n i’n blentyn. Dw i’n meddwl oedd y teimlad yn sbarc i mi.
Dechreuais i ddysgu Cymraeg chwe blynedd yn ôl yn 2018, yng Ngholeg Cambria yn Wrecsam. Wnes i ymuno â’r dosbarth lefel mynediad a dw i ‘di cario ymlaen ers hynny. Dw i’n astudio lefel Uwch rŵan.
Dw i’n mwynhau dysgu Cymraeg, ac mae hyn yn bwysig iawn yn fy marn i! Hefyd, dwi’n credu bod dysgu Cymraeg wedi agor drysau i mi – nid yn yr ystyr bod gen i swydd sy’n gofyn am y Gymraeg, ond o agwedd gymdeithasol. Drwy ddysgu Cymraeg, dw i wedi gwneud ffrindiau gwych (dysgwyr a phobl mamiaith). Dw i wedi cael profiadau gwych, fel penwythnosau yn Nant Gwrtheyrn ac yng Nglan-llyn, eisteddfodau a gŵyliau (fel Tafwyl yng Nghaerdydd, Sesiwn Fawr yn Nolgellau, ac ati) – Fyddwn i ddim yn gwybod amdanyn nhw os na fyddwn yn dechrau dysgu Cymraeg.
Dw i wrth fy modd efo cerddoriaeth – mae’n rhan fawr o fy mywyd. O ganlyniad i ddysgu Cymraeg, fy llygaid (a fy nghlustiau!) wedi eu hagor i gerddoriaeth Cymraeg. Rŵan, dw i’n mynd i gigs, a digwyddiadau ledled Cymru i weld bandiau ac artistiaid yn perfformio. Mewn ffordd, dw i’n trio defnyddio’r gerddoriaeth i helpu fi dysgu’r iaith.
Os fyddai’n rhaid i mi roi cyngor i ddysgwyr arall, byddwn i’n deud: peidiwch â chanolbwyntio ar fod yn rhugl (mae hyn yn rhoi pwysau arnoch chi). Yn lle hynny, canolbwyntiwch ar deimlo’n hyderus. Defnyddiwch y Gymraeg sydd gynnoch chi, ac yna ychwanegwch ato.
Mae dysgu iaith yn cymryd amser. Mae pawb yn gwneud camgymeriadau – dyna sut ydan ni’n dysgu. Peidiwch â phoeni, a pheidiwch â rhuthro. Y peth pwysicaf yw ei fwynhau!