Llwybr Llechi Eryri yn ceisio statws Llwybr Cenedlaethol.

Ymddiriedolaeth Llwybr Llechi Eryri

Ymddiriedolaeth Llwybr Llechi Eryri

Mae Ymddiriedolaeth Llwybr Llechi Eryri wedi comisiynu arolwg cynhwysfawr o’r Llwybr i nodi pa welliannau a chamau sydd angen eu cymryd i ddod â’r Llwybr i fyny i safon Llwybr Cenedlaethol. Mae’r arolwg hwn wedi ei ariannu trwy raglen Gronfa Ffyniant a weinyddir gan Mantell Gwynedd.
Mae’r Llwybr hwn yn unigryw yng Nghymru gan ei fod yn canolbwyntio ar dirwedd a threftadaeth ein Safle Treftadaeth y Byd. Mae eisoes yn boblogaidd, yn enwedig gyda cherddwyr lleol, ond pe bai’n ennill statws Llwybr Cenedlaethol, byddai’r budd economaidd i’n cymunedau a’n busnesau gwledig yn sylweddol.
Fel enghraifft o gynnig twristiaeth cymunedol, ecogyfeillgar gwirioneddol gynaliadwy , mae Llwybr Llechi Eryri yn haeddu cefnogaeth eang yn ei daith tuag at ddod yn Llwybr Cenedlaethol.

Dweud eich dweud