Wrth nodi Diwrnod Shwmae Su’mae, rydyn ni’n falch i gyhoeddi partneriaeth newydd sbon gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, Helo Blod a Chyngor Rhondda Cynon Taf, trwy lansio Gwobrau Busnes Ardal yr Eisteddfod fel rhan o waddol yr Eisteddfod yn 2024.
Mae’n gyfle i ddathlu’r Gymraeg ymysg busnesau a chwmnïau yn Rhondda Cynon Taf, a diolch iddynt am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn hyd at yr Eisteddfod, ynghyd â’r cyfnod yn dilyn yr ŵyl ei hun.
Mae’n gyfle hefyd i hyrwyddo’r hyn y gall y fenter iaith leol a phrosiect Ymbweru Bro eu cynnig i’r sector preifat er mwyn annog rhagor o ddefnydd o’r Gymraeg.
Mae’n un o gyfres o weithgareddau dan faner Ymbweru Bro yn yr ardal hon dros y ddwy flynedd nesaf a fydd yn galluogi a chefnogi’r cymunedau i roi hwb i weithgarwch lleol, yr ymdeimlad o berthyn a’r denfydd o’r Gymraeg yn lleol.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau’r gwobrau yw dydd Gwener 8 Tachwedd, a chyhoeddir y rhestr fer ddydd Llun 18 Tachwedd, i nodi 100 diwrnod ers Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.
Bydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno mewn seremoni frecwast arbennig yn y Lido ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd, lleoliad Maes yr Eisteddfod eleni, fore Iau 5 Rhagfyr.
Dyma’r categorïau:
- Defnydd o’r Gymraeg
- Defnydd gweladwy o’r Gymraeg
- Gwobr arbennig
- Gwobr diolch lleol
- Gwobr Croeso i’r ŵyl
Ewch ati i enwebu’r busnesau!