Hanes Pont y Borth

Trafferthion y Bont gan Gerwyn James

Papur Menai
gan Papur Menai

Trafferthion Pont y Borth

 

  • Peirianwyr yn darganfod problemau ar Bont y Borth
  • Darnau ohoni wedi rhydu
  • Cerbydau trwm yn cael eu gwahardd rhag croesi
  • Trafferthion i drigolion lleol, ymwelwyr a busnesau
  • Sôn am gael pont newydd

Penawdau cyfarwydd iawn i nifer o ddarllenwyr Papur Menai dwi’n siŵr? Ond, nid rhywbeth ddigwyddodd yn ystod misoedd yr haf eleni mo’r stori hon. Fe ddigwyddodd hyn union gan mlynedd  yn ôl –  sef yn 1923. Roedd traffig o bob math wedi bod yn cynyddu’n arw ar Bont y Borth ers cyfnod y Rhyfel Mawr, ac erbyn y 1920au roedd nifer o foduron petrol bellach yn croesi’n ddyddiol. Roedd dyddiau’r ceffyl a throl yn prysur ddod i ben.

Ond, yn fuan wedi’r rhyfel fe ddechreuodd bobol sylwi fod y cynnydd hwn mewn trafnidiaeth wedi creu straen ddychrynllyd ar yr hen bont – yn enwedig y gwaith haearn. Ar ddechrau 1923 felly, fe alwodd y Weinyddiaeth Drafnidiaeth yn Llundain, y peirianwyr sifil H. H. Tudsbery ac A. R. Gibbs draw i wneud arolwg o’i chyflwr. Yn yr adroddiad ddaeth allan ym mis Mehefin 1923 cafwyd ar ddeall fod yna broblemau difrifol yn bodoli. Roedd yna arwydd fod rhai o’r cadwyni wedi dechrau rhydu, ac o ganlyniad fe fu’n rhaid gwahardd cerbydau trymion, sef lorïau a bysys a bwysai dros 4¼ tunnell, rhag defnyddio’r bont. O hyn ymlaen roedd yn rhaid pwyso pob lori a fan  – ac os oeddynt dros 4¼ tunnell, yna, roedd yn rhaid dadlwytho, a chario popeth drosodd wedyn mewn llwythi llai.  Ambell dro, roedd yn rhaid mynd â phopeth yn syth i Stesion y Borth neu i Orsaf Llanfair er mwyn cludo’r nwyddau dros y Fenai ar drên. Ddaru hyn, wrth reswm, ddim yn plesio dynion busnes y fro.

Roedd hyn hefyd yn drafferthus i ffermwyr a chludwyr anifeiliaid. Os oedd y llwyth o anifeiliaid  mewn lori yn rhy drwm, yna roedd yn rhaid ail-drefnu pethau. Ar adegau fe fu’n rhaid i’r amaethwr neu’r porthmon gerdded ambell i fustach neu ddafad draw i’r ochr arall.

Ond, bu’r cyfyngiad pwysau hefyd yn gur pen anferthol i’r diwydiant ymwelwyr. Pan fyddai bws neu siarabáng dros bwysau yna, roedd yn rhaid i rai fisitors – y rhai mwyaf sionc a  heini fel arfer, gamu i lawr o’r cerbyd a cherdded drosodd – a hynny boed law neu hindda. Yn ôl yr Holyhead Chronicle roedd y cyfyngiad pwysau hwn wedi achosi ‘cryn anghyfleustra i deithwyr siarabáng y tymor hwn.’ Ac nid y teithwyr yn unig oedd yn cwyno. Doedd hyn chwaith ddim wrth fodd y cwmnïau bysys na pherchnogion y gwestai lleol. Roedd hyn yn hynod niweidiol, medd rhai, i’r diwydiant twristiaeth ym Môn ac Arfon.

Ond, beth oedd ymateb y llywodraeth i hyn oll? Chwarae teg, fuo yna fawr o oedi, ac ym mis Tachwedd 1923 fe dderbyniodd y Cynghorau Sir lleol lythyr o Lundain, wedi ei anfon gan un o weision sifil Whitehall.

‘Yr wyf wedi fy nghyfarwyddo’ meddai, ‘i’ch hysbysu fod y Weinyddiaeth Drafnidiaeth yn ystyried cynllun i adeiladu pont newydd ar draws Afon Menai yn lle’r bont grog sydd yno ar hyn o bryd.’

Newyddion ardderchog felly. Pont newydd sbon. Pont gryfach ar gyfer anghenion yr oes newydd. Ac yr oedd yna reswm arall hefyd dros ddathlu – fe fyddai’r gwaith pwysig yma’n creu nifer o swyddi newydd ar gyfer y nifer fawr oedd yn ddi-waith ym Môn ac Arfon erbyn 1924. Mwy o newyddion da felly.

Ond, eto, doedd pethau ddim cweit yn glir.

Yn fuan yn 1924, cafwyd mwy o gig ar yr esgyrn sychion hyn. Fe ddechreuodd y papurau newydd adrodd stori ychydig yn wahanol.  Nid adeiladu pont newydd sbon ar safle arall oedd y bwriad wedi’r cyfan, gan y byddai hynny mae’n debyg yn llawer iawn yn rhy gostus. Yr hyn yr oedd yr awdurdodau am ei wneud oedd ail-wampio’r hen bont. Roedd yna fwriad i gael gwared â’r cadwyni haearn a darn canol y bont. Fe ddaeth i’r amlwg yn 1924 fod yna gynlluniau erbyn hyn i greu pont fwa, rhwng y ddau dŵr – pont wedi ei chreu allan o ffero-concrit – un o ddeunyddiau newydd yr ugeinfed ganrif. Fe fyddai’r bont newydd yma wedyn, meddai’r llywodraeth, yn gryfach ac yn gallu cario lorïau a bysys mawr modern.

Yn anffodus, ni chafwyd pont newydd. Erbyn 1924 roedd y sefyllfa ariannol y wlad wedi dirywio’n enbyd, ac felly fe fu’n rhaid gohirio popeth, a deuddeng mlynedd yn ddiweddarach fe gafwyd yr argyfwng mawr nesaf. Yn dilyn storm fawr ar ddechrau Ionawr 1936, fe wnaed difrod ofnadwy i ddarn canol y bont.

‘Pont Menai Mewn Perygl’ oedd prif stori’r Cymro’r wythnos ganlynol, tra yn y Daily Telegraph cafwyd sawl pennawd dramatig dros ben – gan gynnwys ‘Menai Bridge in Peril’, ‘Bridge Hanging by Threads’ ac ‘Island Cut Off’. Roedd darn canol y bont wedi symud yn y gwynt – gan agor twll neu fwlch yn y ffordd, ger un o’r tyrrau – bwlch a fesurai o leiaf llathen. Ac yna, yn fuan wedi i hyn ddigwydd, fe syrthiodd darn enfawr o waith haearn oddi ar bont i mewn i’r Fenai.

Ac fe fu bron iawn i drychineb ofnadwy ddigwydd y noson honno. Yng nghanol y storm fe ddechreuodd bws o  Sir Fôn groesi, ac yn ôl y dreifar : ‘Mi ges i’r profiad mwyaf dychrynllyd. Pan ddois i at y tŵr ar ochr Sir Gaernarfon, nid agoriad oedd yno, ond wal o gerrig. Methais â throi’n ôl ac felly roedd yn rhaid i mi ddisgwyl i’r darn canol symud yn ôl i’w le arferol. Fe ddigwyddodd hyn ymhen amser, a phan welais fy nghyfle, mi lwyddais i gael y bws drwodd.’ Yn dilyn hyn, caewyd y bont yn syth. Fe drwsiwyd y difrod gwaethaf, ond roedd pawb bellach yn sylweddoli fod angen gwneud rhywbeth ar frys. Bu Megan Lloyd George, AS yr ynys, yn brysur tu hwnt dros y flwyddyn nesaf yn sgwennu llythyrau at wahanol unigolion a gweinidogion y goron, a blwyddyn yn ddiweddarach, fe lwyddodd o’r diwedd i gael y maen i’r wal.

‘Dwi’n bwriadu ail-adeiladu’r bont’ medd Mr Hore-Belisha  y Gweinidog Trafnidiaeth yn Chwefror 1937, ‘a hynny ar gost o tua £228,000, fydd yn golygu y bydd hi’n bosib i gario holl draffig yr ardal, ac ar yr un pryd fe fydd yn cadw at gynllun gwreiddiol Telford.’  A chwarae teg iddo fo – fe gadwodd at ei air. Yn 1938 fe ddechreuodd Sir Alexander Gibb a Chwmni Dorman Long ar y gwaith mawr o adnewyddu. Tynnwyd yr hen gadwyni haearn i lawr gan osod dwy gadwyn ddur yn eu lle, ac fe grëwyd lôn goncrit newydd sbon rhwng y tyrau. Wedi dwy flynedd o waith caled, fe agorwyd y cyfan ar ddechrau 1941.

A hithau bellach yn 2024, a ninnau yn yr un twll eto, ai dyma sydd o’n blaenau ni unwaith yn rhagor?  Trwsio, ail-bobi ac ail-wampio. Caiff un sydd wedi gorfod delio ag effaith hyn oll, sef y Cynghorydd Sir lleol, Robin Williams o’r Borth y gair olaf ar y mater pwysig hwn.

‘Tydi hi’n biti’ meddai Robin, ‘ein bod ni yn gweld hanes yn ail-adrodd ei hun unwaith eto. Ond be’ sydd yn cynddeiriogi rhywun y tro yma ydi fod nhw wedi darganfod fod yna broblemau flynyddoedd yn ôl ac wedi gwneud dim am y peth, tan i ni  gyrraedd y dibyn fel petai, a hynny pan gaewyd y bont yn gyfan gwbwl yn ôl ym mis Hydref 2022. Yn amlwg tydi’r sefyllfa sydd ohoni ar hyn o bryd ddim yn ddelfrydol o bell ffordd, ond yn anffodus, yn ôl yr hyn yr ydym ni wedi cael ar ddeall, ’does yna ddim opsiwn hyfyw arall chwaith. Felly’n anffodus, gan nad yw peirianyddion heddiw, wedi dysgu dim o ddigwyddiadau ganrif yn ôl, fe fydd rhaid i ni wynebu goleuadau traffig ar y bont am ddwy flynedd arall, a hynny cyn bydd y gwaith i gyd wedi ei gwblhau.’

GERWYN JAMES