Gwefannau bro yn rhoi rheswm i siaradwyr newydd ddefnyddio eu Cymraeg

Straeon siaradwyr newydd

gan Bethan Lloyd Dobson
Llun-Dysgwyr-BangorFelin-1

Bydd atodiad arbennig rhwng cloriau rhifyn nesaf Golwg yfory, 31 Hydref 2024, yn llawn straeon difyr gan siaradwyr Cymraeg newydd.

O gerdded i arddio, o gerddoriaeth i gwiltio, dyma rai o’r diddordebau y bu dysgwyr yn sgwennu amdanynt ar eu gwefan fro yn ystod mis Hydref.

Dathlu diwrnod Shwmae Su’mae oedd y sbardun a bellach, mae dros ddwsin o straeon wedi’u cyhoeddi ochr yn ochr â straeon gan siaradwyr iaith gyntaf – ar wefannau bro ac mewn print yng nghylchgrawn Golwg.

Cyflwynodd ambell siaradwr newydd air o gyngor hefyd, er enghraifft Kierion Lloyd o Wrecsam, a ddywedodd “Mae dysgu iaith yn cymryd amser. Mae pawb yn gwneud camgymeriadau – dyna sut ydan ni’n dysgu. Peidiwch â phoeni, a pheidiwch â rhuthro. Y peth pwysicaf yw ei fwynhau!”

Diolch i bob siaradwr newydd am fentro a chyhoeddi eu straeon er mwyn i’r byd i gyd gael eu darllen, a diolch i’r tiwtoriaid am eu cymorth.

I ddarllen mwy, dilynwch y linc isod.

Atodiad-Dysgwyr-Hydref-2024

Dathlu ein dysgwyr

Lowri Jones

Casgliad o straeon lleol gan siaradwyr newydd

Dweud eich dweud