Y gwefannau bro’n chwifio baner y Gymraeg mewn ymgyrch genedlaethol

Bydd yr Wythnos Newyddion Annibynnol yn cael ei dathlu ar draws y DU yn ystod 3-9 Mehefin

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Bydd gwefannau Bro360 yn lansio’r botwm Cefnogi yn rhan o ymgyrch newydd yn ystod wythnos gyntaf Mehefin.

Nod yr Wythnos Newyddion Annibynnol, neu’r Indie News Week, ydy dathlu a chefnogi’r darparwyr newyddion sy’n eiddo i’r gymuned.

Ar draws gwledydd Prydain bydd llu o ddigwyddiadau byw yn cael eu cynnal rhwng 3 a 9 Mehefin er mwyn codi proffil platfformau annibynnol, ac mae’r rhwydwaith o wefannau bro Cymraeg sy’n cael eu cefnogi gan gwmni Golwg yn rhan o’r cyffro.

Yn ystod yr wythnos bydd gwirfoddolwyr nifer o wefannau bro yn cynnal digwyddiadau lleol er mwyn rhannu manteision y wefan fro i’r gymuned leol, a denu diddordeb darllenwyr a chyfranwyr newydd.

Un peth fydd mlaen fydd taith gerdded yn Nyffryn Nantlle ar 4 Mehefin a stondin ym Marchnad Ogwen ar 8 Mehefin. Cadwch lygad ar gyfryngau cymdeithasol eich gwefan fro chi am ragor o fanylion.

Cefnogi

Byddwn yn lansio botwm arbennig sy’n mynd i sicrhau bod y gwefannau bro’n parhau’n gynaliadwy. Bydd modd i bawb sy’n dymuno gweld eu gwefan fro’n datblygu gyfrannu £2 y mis trwy’r botwm Cefnogi.

Dyma’r tro cyntaf i gynllun Bro360 hybu’r dull ‘crowdfunding’, a’r gobaith yw codi digon o arian yn ystod yr Wythnos Newyddion Annibynnol i allu cynnal a chadw holl elfen dechnegol y gwefannau bro diolch i roddion gan bobol y cymunedau.

Mae gwefan fro yn gymaint mwy na sgrin llawn gair a llun. Mae ynddi newyddion, mae ynddi straeon, mae ynddi lu a gwybodaeth am ystod eang o ddigwyddiadau, gyda llawer o waith gan grwpiau bach gwirfoddol ffyddlon yn digwydd y tu ô i’r llen. Mae’n fodd o gryfhau ymdeimlad o berthyn. Ac mae’n rhoi hyder a sgiliau i ragor o bobol ddefnyddio eu Cymraeg, cydweithio a bod yn greadigol.

Er mwyn helpu’r cyfranogwyr lleol i barhau i gyhoeddi, ac er mwyn cadw’ch gwefan fro yn blatfform am ddim i bawb, ystyriwch gefnogi heddiw. Mae’n llai na phris coffi!