Gwefan Fro newydd yn dod i ardal Wrecsam!

Criw o’r bobol Wrecsam yn cyfarfod am sesiwn sgwrs i ddechrau siapio’r gwefan fro Wrecsam360.

gan Daisy Williams

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn llawn cyffro gan fod diddordeb yn Wrecsam i gael gwefan fro unigryw i’r ardal. Erbyn nawr, mae pethau’n prysuro i allu gweithredu cynllunion y wefan fro a gwrando ar yr anghenion yr ardal.  

Ar y 9fed o Dachwedd 2024, mi wnaeth criw brwdfrydig o’r bobl Wrecsam cyfarfod yn Nhŷ Pawb er mwyn trafod a siapio Gwefan Fro newydd i’r ardal. Bydd llawer o fanteision yn dod i Wrecsam pan ddaw’r gwefan fro yno, fel y cyfle i lwyfannu pobl leol i rannu straeon lleol, yn ogystal â llwyfannu digwyddiadau neu fusnesau.  

Roedd y stafell llawn optimistiaeth am y syniad o gael adnodd newydd ar-lein i ddod a’r gymuned Gymraeg at ei gilydd, sef nawr wedi cael ei enwi fel gwefan Wrecsam360! Bydd union ffiniau ardal y wefan yn cynnwys Wrecsam fel Sir, a bydd y logo yn llun o gerflun ‘Y Bwa’ sydd i’w weld yng nghanol y dref – symbol eiconig iawn yn hanes Wrecsam.  

Mae dau sesiwn ychwanegol wedi’i drefnu er mwyn cyflwyno gwybodaeth ar sut i gyflwyno straeon a digwyddiadau ar y wefan. Er mwyn rhannu’r wybodaeth gyda chymaint o bobl a phosib, trefnwyd y sesiynau ar amseroedd gwahanol, er mwyn hyblygrwydd i bawb.    

Sesiwn 1: Dydd Mawrth, 26 Tachwedd, 3yh/pm yn Llyfrgell Wrecsam.     

Sesiwn 2: Dydd Llun, 2 Rhagfyr, 7yh/pm yn Saith Seren. 

Cofiwch gysylltu gyda Daisy Williams, ein Swyddog Prosiect Ymbweru Bro Ardal Wrecsam os hoffech chi fynychu un o’r sesiynau, ac i gadw fyny efo’r holl ddatblygiad Ymbweru Bro Ardal Wrecsam! (daisywilliams@golwg.cymru).