Gigs ysgolion yn agor byd newydd i ddisgyblion yng Ngwynedd

Tara Bandito yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ffans miwsic Cymraeg

Lowri Jones
gan Lowri Jones
1000019342

Disgyblion y Berwyn yn cyfweld â Tara er mwyn sgwennu adolygiad

1000019336

Criw cerdd Blwyddyn 10 y Berwyn yn creu ffilm uchafbwyntiau

processed-21020029-FF45-4C83

Sgwrs a sesiwn ar les a merched mewn miwsig gyda Tara i griw Tryfan

Os oeddech chi’n taro ar draws BangorFelin360 yr wythnos yma, fe fyddwch wedi gweld blog byw gan ddisgyblion Ysgol Tryfan.

Do, fe lwyddodd y criw ifanc i ddod â gig arbennig a gynhaliwyd yn yr ysgol yn fyw i bawb adre. Ac roedd na hwyl i’w gael, wrth i Tara Bandito rocio’r neuadd ysgol bnawn dydd Mawrth!

Roedd y gig ym Mangor yn rhan o daith gigs a gweithdai o gwmpas ysgolion Gwynedd, oedd yn cael ei drefnu gan Menter Iaith Gwynedd ar y cyd â chwmni Golwg.

Cafodd y tri artist – Tara Bandito, skylrk. a Tesni Hughes – ymateb gwych gan gannoedd o ddisgyblion. Nifer fawr ohonynt erioed wedi bod mewn gig Cymraeg o’r blaen.

Ac mae’n braf iawn clywed ymateb fel hyn gan un o athrawon Ysgol y Berwyn yn y Bala:

“Roedd bl 7 ac 8 wir wedi mwynhau’r gig. Pan gerddais i mewn i’w gwers rydd heddiw, y bandiau a welon nhw ddoe roedden nhw’n edrych arno efo clustffonau ar youtube – da de!”