Cafodd panel beirniaid Llwyddo’n Lleol eu hargyhoeddi gan syniad busnes Elen Bowen o Sir Gâr, a hi ddaeth i’r brig yn her Taro’r Nodyn yn ddiweddar.
Taro’r Nodyn oedd penllanw rhaglen hyfforddiant busnes Ceredigion a Sir Gâr. Y syniad y tu ôl i’r rhaglen oedd datblygu sgiliau criw o entrepreneuriaid ifanc i gynnal, rheoli a datblygu busnes.
Yn y sesiwn Taro’r Nodyn, roedd syniadau’r criw yn cael eu herio gan banel, cyn i un ymgeisydd ennill £1000 i hybu ei fusnes newydd.
Cafodd y 10 unigolyn dewr 3 munud i gyflwyno eu syniadau a ddatblygwyd dros y 10 wythnos.
Yn ôl y panel, Geraint Hughes, Menna Davies, Ceri Davies ac Alaw Rees, roedd syniad Elen Bowen yn “dal dŵr”, yn “unigryw” ac yn “ddychmygus”.
Y cystadleuwyr
Y cystadleuydd cyntaf oedd Dafydd Bowen o Llechi Ronw Slates. Mae Dafydd yn creu “darnau datganiad” o lechi Cymru. Mae’r Gwaith yn “unigryw, personol, addasol, ac amrywiol” a phob un wedi eu creu efo llaw. Mae’r cwsmeriaid yn cael elfen bersonol i’r gwaith drwy ddewis y lliwiau a’r dyluniad. Er bod ei waith yn bennaf yn amlinellu ardaloedd Cymreig, mae’n gobeithio mentro i wneud mwy yn y dyfodol. Byddai’r buddsoddiad yn mynd tuag at brynu peiriannau newydd a datblygiad marchnata.
Nesaf, daeth Emily Lloyd o Tanygraig, Aberystwyth. Ar ôl eu priodas yn 2022, sefydlodd hi a’i gwr fusnes newydd-safle priodasau a digwyddiadau ar eu fferm. Mae lle i 200 o bobl ymgynnull, ac mae ganddynt y gallu i addurno’r lle fel maent eisiau. Mae cymuned yn wraidd i’r cwmni ac maent yn gobeithio creu cymuned o fusnesau lleol i gyd-weithio efo’u gilydd yn ystod digwyddiadau – gwestai, bwytai a chynnyrch. Fyddai’r buddsoddiad yn mynd yn syth at insiwleiddio’r adeilad, ac i roi paneli solar i’w gynhesu. Ar hyn o bryd, dim ond yn yr haf maent ar agor, maent yn gobeithio newid hyn yn y dyfodol.
Daeth Heti Hywel ymlaen nesaf i gyflwyno ei menter ffotograffiaeth Newydd. Dyma fusnes sydd yn rhoi dechrau ar ei gyrfa mewn adeg o bwysau o ran beth mae hi am wneud am weddill ei bywyd. Mae hi wrth ei bodd yn tynnu lluniau o bobl, os ydy hynny yn dalent ifanc neu yn luniau proffesiynol. Yn y gorffennol mae hi wedi tynnu lluniau i Golwg, Yr Eisteddfod, ac i fusnesau eraill. Mae hi yn gobeithio adeiladu enw i’w hun wrth gadw’r gymuned yn glos. Mae offer camera yn ddrud, ac felly fyddai’r hwb ariannol yn hynod werthfawr iddi.
Gemwaith Elen Bowen ymddangosodd nesaf. Mae hi ar hyn o bryd yn gwerthu ei gemwaith hyfryd mewn dwy siop, yn Llandysul ac yng Nghastell Newydd Emlyn. Mae’r darnau unigryw yn cael eu cynnig i briodasau ac i arddangos deunydd cyfrwng Cymraeg. Ond, mae hi yn credu fod pobl yn fwy tebygol o wario ar brofiad. Felly, mae hi yn cynnal gweithdai gemwaith sydd yn datblygu sgiliau, creu cymdeithas, creu teimlad o gyflawniad, ac i addysgu. Sylweddolodd hi fod diffyg profiadau allgyrsiol yn y celfyddydau yn Sir Gar. Mae hi’n gobeithio datblygu’r gweithdai os fyddai’r arian yn cael ei gynnig iddi. Fyddai’r arian hefyd yn mynd i farchnata a chreu gwefan i’w chwmni.
Daeth Crefftwyr Cymru ymlaen i gyflwyno syniad am wefan ac ap rhyngweithio i alluogi pobl gyflogi crefftwyr cyfrwng Cymraeg. Fydd y rhwydwaith yn targedu pobl fregus, hen bobl a siaradwyr Cymraeg yn gyffredinol. Fydd pawb sydd yn cynnig gwasanaeth ar y wefan yn gorfod siarad Cymraeg, cael DBS, ac yn defnyddio WhatsApp. Byddai’r wefan yn hysbysebu Cymru, cefnogi crefftwyr lleol, a chael hawlfraint. Gyda’r hwb ariannol gall y busnes ddatblygu a gall arbenigwyr ddechrau hybu’r datblygiad.
Mae Saeth yn wasanaeth cyfathrebu a marchnata bydd yn cefnogi busnesau, cwmnïau a mudiadau. Eu nod byddai symud busnesau bach ymlaen, gan fod busnesau bach gwerth £49.4 biliwn i economi Cymru. Felly mae’n allweddol! Mae ganddo 6 mlynedd o brofiad marchnata a chyfathrebu mewn mudiadau cenedlaethol. Byddai’r gwasanaeth yn cynnig sesiwn blasu i’r cwsmeriaid. Byddai’r £1000 yn mynd tuag at gyfarpar ag offer newydd, camerâu ffilmio, ymchwil marchnata a gwefan.
L.P.D ydy busnes Lowri sydd yn gwerthu, dylunio a chreu eitemau pren, llechen a gemwaith. Maent wedi eu hysbrydoli gan draddodiadau a hanes Cymreig. Mae hi yn dechrau gweithdai therapi celf yng Nghaerfyrddin. Pan gollodd ei brawd hanner ei olwg, sylweddolodd hi fod celf yn medru bod yn ffordd i fynegi sgwrs ac o fynegi eich hunain. Mae hi wedi bod mewn cysylltiad efo ysgolion a phobl profiadol, ac yn ôl ei hymchwil mae 70% o bobl wedi anghofio sut i fynegi’n greadigol. Byddai pobl o bob oedran yn elwa o’r profiad. Byddai’r £1000 yn mynd yn syth tuag at ddeunydd a mwy o sesiynau mynegiannol i bob oedran.
Cyflwynodd Gwion gwmni Afanc. Mae cerddoriaeth Cymraeg yn bwysig iawn iddo fel DJ, ac mae ef eisiau ehangu ei ddiddordeb i ysgolion ar hyd a lled Cymru. Mae wedi cynnal dros 40 o ddigwyddiadau gan ddiddanu 125 mil o bobl ers 2018. Gan ganolbwyntio ar oedran TGAU, mae’n bosib iddo fynd at 20 ysgol y mis, gan weld 3400 o ddisgyblion mewn 3 diwrnod. Efo’r £1000, byddai afanc yn medru gwneud defnydd gwych o offer a ‘set up’ i fynd i ysgolion, gan ei fod ar hyn o bryd yn llogi’r offer pob tro. Gall hyn newid os fyddai’r cystadleuwr yn ennill y £1000…
Daeth Rhian Floyd nesaf. Bydd ei busnes cyfathrebu a marchnata yn cynnal yr iaith ac yn cynnig cyfleoedd. Mae hi’n wybodus iawn ar ochr canllawiau Cymraeg felly mae’r math yma o fusnesau yn bwysig iawn iddi. Gyda 5 mlynedd o brofiad, mae hi’n awyddus i gyflwyno ochr arall i’r fenter yn y dyfodol hefyd. Byddai hi yn medru dechrau ffrwd hyfforddiant byddai’n golygu fod pobl yn ei thalu hi yn y byr dymor, ond yn gallu gwneud eu harian yn ôl yn yr hir dymor. Gyda’r £1000, byddai hi yn creu cynllun busnes ar gyfer y dyfodol a chreu enw da iddi hi ei hun yn y maes.
Yr olaf i ymddangos oedd Aled Rosser sydd wedi dechrau cwmni theatr o’r enw Onnen. Mae’r cwmni yn hollol ddwy ieithog, gan fod cadw’r elfen Gymraeg yn bwysig iawn iddo. Mae Onnen yn creu darnau sydd yn adlewyrchu problemau cymdeithasol a chymdeithas yn gyffredinol. Mae Aled wedi gweithio yng nghyd â chwmnïau fel Yr Urdd, Enby City a’r Fran Wen. Mae Aled eisiau dilyn ei “angerdd personol” drwy adlewyrchu ac “efelychu lleisiau Cymru”. Byddai’r £1000 yn mynd tuag at gomisiynu dau sgriptiwr i ddechrau cynhyrchu mwy o gynyrchiadau dwy ieithog. Rhai elfennau o’i waith ydy trefnu cynnwys cyfryngau cymdeithasol, siarad efo artistiaid a dadansoddi sgriptiau. Dyma ei ddefnydd o radd meistr mewn cynnyrch creadigol.
Ar ôl deg cystadleuydd brwdfrydig, trafod dwys a chwestiynnu heriol, daeth y beirniaid i benderfyniad. Dywedodd y beirniad ei bod hi’n “fraint” gwylio’r cyflwyniadau. Roedd pawb wedi ymroi ei hunain i’r rhaglen drwy greu syniadau “graenus” a “theimladwy”. Erbyn diwedd y rhaglen, roedd pawb yn llawer mwy agored, ac roedd y criw yn cytuno bod y rhaglen wedi helpu i wella eu hunan-hyder.