Garth Newydd yn cipio gwobr yn Seremoni Wobrwyo Bwrlwm Arfor 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🥳

Llawenydd wrth i wobr ‘Y Gofod Mwyaf Cymraeg yn y byd’ ddod i Garth Newydd, llety preswyl yn Llanbed

Nia Llywelyn
gan Nia Llywelyn

Nos Fercher ar fferm Tanygraig, Llanfarian mewn seremoni hyfryd daeth cyfle i ddathlu busnesau ‘Mwyaf Cymraeg y byd ARFOR ( Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd a Môn). Y digrifwr Dilwyn Morgan oedd arweinydd y noson.

Daeth 2 wobr o’r saith categori nôl i Geredigion, sef ‘Garth Newydd’ am Y Gofod Mwyaf Cymraeg yn y byd a ‘Sgolds’ yn Llanon am Y Brand Mwyaf Cymraeg yn y byd.

Hoffai Marcus a Nia ddiolch i bobl Llanbed am y croeso cynnes mae menter Garth Newydd wedi ei dderbyn a’r gefnogaeth parhaus ers ei agoriad swyddogol union dair blynedd yn ôl gyda’r unigryw Gillian Elisa.

Dywedodd Marcus y perchennog, “Mae hwn yn eisin ar y gacen penblwydd!”

Diolch yn fawr iawn i bawb bleidleisiodd i ni! Hwre! 🥳

Bydd yna griw Wythnos Byw’n Gymraeg yn aros yn Garth Newydd wythnos nesa-  o’r 21-26 o Orffennaf ac yna penwythnos Hwyl Mapiau gyda Mike Parker ar benwythnos 2-4 o Awst.

Am fwy o wybodaeth am Garth Newydd ewch i wefan www.paned.cymru.
Am fwy o wyboaeth am brosiect Arfor ewch i www.bwrlwmarfor.cymru.

Os mae unrhyw fudiadau neu unigolion eisiau llogi Garth Newydd i drefnu penwythnosau Cymraeg cysylltwch â contactpaned@gmail.com