Sut gall eich papur a’ch gwefan fro gydweithio er mwyn cryfhau?

6 ffordd o gryfhau’r ddau blatfform straeon lleol

Lowri Jones
gan Lowri Jones
Screenshot-2024-04-15-at-10.56.26

Papurau a gwefannau bro – mae’r ddau yn gyfryngau rhannu straeon lleol gan bobol leol yn y Gymraeg. Y bobol ydy’r allwedd. Pobol ar lawr gwlad sydd yng nghanol y pethau i glywed beth sy’ mlaen yn eu milltir sgwâr.

Mae potensial i newyddion lleol gael ei gyhoeddi gan fwy o bobol, a chyrraedd mwy o bobol, trwy wneud defnydd da o’r ddau gyfrwng.

Mae i’r papur bro sawl rhinwedd, wrth gwrs. Mae’r cyfrwng print yn gofnod hanesyddol gwerthfawr, mae’r clawr yn weledol yn y siopau, ac mae sawl papur bro yn manteisio ar y traddodiad o brynu a darllen a rhannu gydag eraill. Mae’r traddodiad o gyhoeddi’n fisol hefyd yn help i ysgogi pobol i gyfrannu straeon – mae’r dedlein yna’n handi! Ac mae’r papur yn lle delfrydol ar gyfer colofnau, erthyglau hirach a phosau.

Fel mae sawl ardal wedi’i brofi dros y blynyddoedd diwethaf, mae i wefan fro sawl mantais hefyd, a’r rheiny’n aml yn bethau nad oes modd eu gwneud mewn print. Er enghraifft, mae gwefan fro yn berffaith ar gyfer torri newyddion ar-y-funud, mae’n lle delfrydol i bobol sydd eisiau rhannu lluniau a fideos, ac mae yno gyfleuster ‘blog byw’ sy’n caniatáu cynnwys amlgyfrwng gan sawl cyfranogwr – perffaith ar gyfer rhoi sylw i ddigwyddiad byw.

Mae pob gwefan fro sy’n rhan o rwydwaith Bro360 yn manteisio ar y ffaith bod egylchlythyr yn cael ei anfon allan at y gynulleidfa leol bob pythefnos. Nid yn unig y mae hwn yn ffordd uniongyrchol o rannu’r straeon diweddaraf, ond mae’n cynnwys y calendr o ddigwyddiadau lleol sydd i ddod hefyd. Maemodd rhannu straeon ar draws bröydd eraill ac ar wefan genedlaethol golwg360 hefyd, i ddenu mwy o sylw i’r pynciau mawr.

Ac o ran y broses gyhoeddi, mae cyfrannu at wefan fro yn hawdd i bawb – does ond angen i chi gael mynediad i’r we, a bod yn byw yn lleol! Mae modd cyhoeddi pytiau’n hawdd o’ch ffôn neu ipad… a hyd yn oed cywiro camgymeriad wedi i chi gyhoeddi stori!

Felly sut mae papurau a gwefannau bro wedi cydweithio er mwyn cryfhau ei gilydd? Dyma ambell esiampl, a syniad allai fod o ddefnydd i’ch gwefan/papur chi…

 

Syniadau cydweithio rhwng papur a gwefan fro

 

1. Fersiwn fyrrach o erthygl

Clecs Caron a Cadwyn Cyfrinachau – mae’r rhain denu pobol i ddarllen y papur trwy rannu y darnau mwyaf difyr ar y wefan, yna “darllennwch ragor yn y papur”

 

2. Hyrwyddo rhifyn newydd o’r papur

e.e. cynnal cyfweliad ar-lein â golygydd y mis, a chyhoeddi’r cyfweliad hwnnw ar y wefan fro

 

3. Gweud stori’n wahanol

e.e. codi arian gyda her taith gerdded.

Gwefan fro – fideos byr ar ddiwedd pob dydd i roi diweddariad a chynnal momentwm + linc i wefan casglu arian

Papur bro – crynhoi’r gweithgarwch, cyhoeddi’r swm terfynol

e.e. clwb chwaraeon lleol

Gwefan fro – fideo uchafbwyntiau gêm; rhestru gemau ar calendr360

Papur bro – portread chwaraewyr bob mis; hanes y clwb

 

4. Dim lle i bopeth yn y papur?

e.e. Trac sain / fideo cyfweliad ar y wefan; crynodeb yn y papur

e.e. Fideo holl weithiau celf Eisteddfod y Ddolen ar y wefan fro, ac annog pawb i brynu’r papur i weld rhestr o’r enillwyr

 

5. Colofn uchafbwyntiau

Rhannu uchafbwyntiau straeon y wefan yn y papur

 

6. Llenwi cornel

Beth am osod straeon o’r wefan yn y papur os oes angen llenwi bwlch, neu osod adroddiad ar y wefan oes wnaeth chi gyrraedd yn rhy hwyr i’r papur?!

 

Oes genncyh syniadau eraill?

Nodwch nhw yn y sylwadau isod.