Cyhoeddwyd marwolaeth un o ffigyrau amlwg pentref Coedpoeth, ger Wrecsam Mrs Eunice Davies, a fu am flynyddoedd yn newyddiadurwraig gyda Phapurau Newydd Gogledd Cymru.
Bu Mrs Davies, a oedd yn 92 oed, farw yn Ysbyty’r Maelor nos Sul Ebrill 8fed yn dilyn salwch sydyn iawn.
Yn enedigol o Goedpoeth, fe dreuliodd gyfnod yn Swydd Surrey a Swydd Stafford fel plentyn ifanc cyn dychwelyd i’r pentref lle priododd Oswald Davies, un o gyd-aelodau Côr Ieuenctid Coedpoeth. Ar ôl gweithio fel ysgrifenyddes, gan gynnwys yng ngwaith dur Brymbo, fe gychwynnodd ei gyrfa newyddiadurol fel cynorthwyydd golygyddol ar y Wrexham Leader, pryd buodd hi’n gyfrifol, ymhlith pethau eraill, am gornel y plant.
Gweithiodd ar gyfer y cwmni am weddill ei hoes waith, gan olygu’r cylchgrawn cefn-gwlad Country Quest am gyfnod ac wedyn, ar ôl ail-hyfforddi mewn technoleg newydd, yn diweddu ei gyrfa fel is-olygydd newyddion.
Yr oedd ei gwr, Oswald, yn syrfëwr meintiau siartredig, ac yn brif ddarlithydd yn yr hen Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru, bellach yn Brifysgol Wrecsam. Yn hanesydd lleol brwd, yn aelod o Feibion Maelor, ac yn weithiwr cymdeithasol diflino, fe fu farw yn 2010 yn 81 oed.
Wedi iddi ymddeol, fe barhaodd Mrs Davies gyda’i diddordebau cerddorol, fel aelod o gôr lleol am flynyddoedd lawer, yn aelod ffyddlon o eglwys Tydfil Sant, ac yn aelod gweithgar o glwb Cymraeg y Felin, Clwb y Cameo, a Chymdeithas Hanes Lleol Coedpoeth, a sylfaenwyd gan ei diweddar ŵr.
Ei dau fab yw’r cyfreithiwr lleol amlwg a chyn-gynghorydd sir, Mark Davies, sef prif bartner cwmni cyfreithwyr Hopleys GMA, a’r Dr Grahame Davies, y bardd a’r cyn-newyddiadurwr a fu’n Ddirprwy Ysgrifennydd Preifat am flynyddoedd lawer i’r Brenin Charles III.
Cyflwynwyd Mrs Davies, ynghyd ag aelodau eraill o’i theulu i’r Brenin Charles a’r Frenhines Camilla yn Eglwys San Silyn, Wrecsam, pan wnaethant ymweld er mwyn dathlu statws dinas Wrecsam fis Rhagfyr 2022.
Cynhelir yr angladd yn Eglwys y Santes Fair, y Mwynglawdd, am 1100 ar Ddydd Llun Ebrill 29th, gyda gwasanaeth i’r teulu yn unig wedyn yn amlosgfa Pentrebychan.