Dylanawad Gareth Miles yma o hyd

Dylanwad ac egwyddorion yr ymgyrchydd yn “dal mor bwysig” i Gymdeithas yr Iaith

gan Megan Griffiths

Mae pobl ar hyd a lled Cymru yn dal i edmygu a chofio pwysigrwydd gweithredoedd a daliadau Gareth Miles.

Yn awr – rai misoedd ers ei farwolaeth – edrychaf yn ôl ar ei ddylanwad a’i waddol yn fanylach. Dywed Nation Cymru mewn erthyg taw Gareth oedd un o bobl mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif.

Barn Cymdeithas Yr Iaith am ddylanwad Gareth Miles yw ei fod wedi “amddiffyn ac amgloddio’r dull di-drais” mewn amser o ansicrwydd clir i’r gymuned Gymraeg gall yn hawdd wedi arwain at drais. Gwelwn hyn o fewn y gymdeithas hyd heddiw. Fe wnaeth amlygu’r angen i “adnabod bod rhaid i Gymry uniaethu â phobloedd eraill sy’n gwynebu gornes”. Mae egwyddorion Gareth Miles mor amlwg ag erioed ym mrwydr di-ddiwedd y Gymdeithas am gyfiawnder. Mae’r hyn a gredai Gareth Miles fydd yn arwain at lwyddiant yr ymgyrchoedd a’r gymdeithas ar y cyfan yn parhau i wthio’r gymdeithas yn ei blaen. Mae hyn yn brawf cadarn o’i ddylanwad.

Dywed Ffred Ffransis, un o ymgyrchwyr pybyr Cymdeithas yr Iaith, mewn datganiad i’r wasg ar ôl marwolaeth Gareth Miles ei fod wedi “arwain mewn dull amhrisiadwy trwy siarad ac annog aelodau ifanc newydd”. Cyflwynodd Gareth y frwydr a’r grëd i’r genhedlaeth nesaf i sicrhau goroesiad yr ymgyrch.

Ysgrifennodd Dafydd Iwan fod Gareth yn un o “arweinyddion y chwyldro dawel”. Ychwanega hyn at bwer dulliau heddychlon Gareth, a’r effaith roedd yn medru cael yn y tawelwch. Disgrifiodd Gareth ei hun ei lwyddiant drwy ddweud “Yn sicr, mi gawson hwyl arni.” Mae’n amlwg fod pobl ifanc hefyd yn gweld yr un effaith. Dywedodd un person ifanc sydd yn ymwybodol o waith Gareth Miles, ei bod yn gweld ei waith fel gweithredoedd “tragwyddol” fydd o hyd “yng nghalon y genedl”.

Mewn cerdd o deyrnged i Gareth Miles gan Aneurin Karadog, disgrifiodd Gareth fel y “dafod i gario ein gobeithion yn go’ bythwyrdd”. Roedd Gareth yn gynrychiolaeth o Gymru gyfan drwy ei waith.

Roedd ymgyrchoedd a dylanwad Gareth yn hynnod lwyddiannus. Dywed ef fod popeth i wneud a’r Gymraeg mor “llewyrch er gwaethaf pawb a phopeth”. Ei gred hefyd ydy fod llenyddiaeth ac addysg Cymraeg yn “llwyddo”. Coffa gwych i ddyn mor uchel ei barch. Dyn sydd yn dal i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o genedlaetholwyr y dyfodol.