Ar ôl cyfnod hirfaith o fod ar gau, mae ‘Dyfi Diner’ yn Glantwymyn, newydd ail agor gyda pherchnogion newydd.
Mae’r busnes teuluol yma wedi ei leoli yng nghalon Cymru, dafliad carreg o bentref Glantwymyn, ger Machynlleth ac yn cynnig ei hun fel y lle perffaith i chi lenwi’ch boliau wrth deithio ar yr A470.
Ers agor ar y 9fed o Ragfyr, mae’r bwyty wedi llwyddo i ddennu llawer iawn o gwsmeriaid. O adeiladwyr lleol i ddreifwyr lorïau ar draws Cymru, dyma le sy’n cynnig croeso cynnes i bawb.
Perchnogion
Sarah ac Arwel Lloyd sy’n rhedeg y busnes. Mae’r pâr yn hoffi gwneud “bach o bopeth”, meddai Sarah wrth Bro360. Mae gan Sarah brofiad yn arlwyo, helpu i redeg tafarndai a helpu ar y fferm. Ymdrechodd Arwel ac Andy Béch i adnewyddu’r “gragen wag” yn fwyty cyfforddus o fewn 2 fis.
Dywedodd Sarah wrth Bro360: “Ro ni’n pasio heibio’r garafan yn aml, ac yn teimlo fod potensial yn cael ei wastraffu wrth iddi sefyll yn wag”.
“Deni wedi bod yn rhedeg busnes tebyg, sef y Riverside Cafe yn Dolwen wrth y lladd-dy yn Llanidloes, sydd yn lle i lorïau stopio yn bennaf. Felly mae hwn yn fusnes tebyg iawn i’r un sydd efo ni’n barod”.
Dywedodd Sarah eu bod wedi “cadw popeth yr un fath o ran cynnyrch” a phenderfynu “mynd amdani” gyda’u hail fusnes.
Cynnyrch lleol
Dywedodd y perchenog eu bod yn defnyddio “cynnyrch lleol”, ac un enghraifft yw llaeth gan gwmni Jenkins.
Ymateb cymunedol
Mae cefnogaeth y gymuned leol wedi bod yn “gwbl arbennig”, meddai Sarah. Teimla fod yna alw mawr am y math yma o wasanaeth, ac mae’n falch o gael cefnogaeth gan “weithwyr a thrigolion lleol, ffermwyr a phobl sy’n carafanio” yn yr ardaloedd cyfagos.
Lleoliad cyfleus
Dywedodd Anwen Evans, cyd-weithwraig Sarah, sy’n byw yn ardal Machynlleth erioed, ei bod hi “methu coelio” faint o “ymateb cadarnhaol” y mae’r bwyty wedi’i dderbyn.
Aeth ymlaen i ddweud fod y fod y cynllun wedi “llenwi bwlch yn y gymuned” a bod y lleoliad yn “hynod o gyfleus i deithwyr sy’n teithio ger yr A470”.
Ychwanegodd: “Mae’r gymuned leol yn dymuno pob llwyddiant i Sarah”.
Y Dyfodol
Yn dilyn pythefnos brysur iawn, mae dyfodol Dyfi Diner yn edrych yn hynod o obeithiol.
Blaenoriaeth Sarah yw bod yn rhan o’r gymuned, a gobeitha noddi timau rygbi a phêl droed lleol, fel y mae hi eisioes yn ei wneud yn Llanidloes.
Mae’r bwyty ar agor 7 diwrnod yr wythnos 7yb-2yh.