Sut i dorri planhigion

Gan Mark Rendell, dysgwr Cymraeg

Mark Rendell
gan Mark Rendell

Helo pawb, dyma fy mlog cyntaf ar-lein, a faswn i’n licio disgrifio be dw i’n wneud fel swydd yn yr ardal hon. Dw i’n byw yng Ngarndolbenmaen ers pymtheg mlynedd a dw i’n gweithio ar ben fy hun fel Ddylunydd Gerddi a Garddwr. Pan mae pobol yn gwybod mod i’n gweithio fel Garddwr, dw i’n cael lot o gwestiynau. Y cwestiwn mwya’ cyffredinol ydy sut i dorri planhigion a llwyni. Dydy lot o bobl ddim isio gwneud camgymeriadau pan maen nhw’n torri eu planhigion nhw ond, bod yn onest, os dach chi’n dilyn ychydig o ‘reolau’, bydd popeth yn arferol yn iawn. Mae’n dibynnu ar y pethau’r rhain: pryd bydd y planhigyn yn blodeuo a fydd y planhigion yn cadw ei dail dros y gaeaf?

Os bydd y planhigion yn blodeuo cyn mis Gorffennaf, torrwch ar ôl flodeuo, os bydd y planhigion yn blodeuo dros yr haf neu’r hydref, torrwch dros y gaeaf, ac eithrio’r planhigion sy’n cadw eu dail dros y gaeaf, torrwch nhw yn y Gwanwyn.

Dw i wrth fy modd garddio yma, mae bob gardd yn wahanol. Mae’n well gen i weithio efo fy nghwsmeriaid. Yn y ffordd yma, ydyn ni’n medru gwneud lot o waith ein gilydd trwy’r sesiwn. Dw i’n licio rhoi ‘gwaith cartref’ iddyn nhw hefyd!

Wel, mae rhaid i mi fynd allan i chwynnu yn fy ngardd i rŵan.

Hwyl am y tro!