Yn ddiweddar penododd cwmni Golwg Rhian Hopkins fel Swyddog Ymbweru Bro i ardal Rhondda Cynon Taf. Mae’r swydd hon yn gyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth i bobl, i’r Gymraeg ac i gymuned Rhondda Cynon Taf.
Dyma holi ambell gwestiwn i Rhian er mwyn dod i’w hadnabod yn well…
Rhian, ar siwrne yn y car pa fath o gerddoriaeth fyddi di’n gwrando arno?
Dwi braidd yn hen ffasiwn a does gen i ddim rhestr chwarae Spotify (eto)… ddim yn siwr pam! Falle dylwn greu un… Dw i’n hoffi amrywiaeth eang o gerddoriaeth felly yn aml wnai wrando ar Radio 2 neu Radio Cymru pan dw i yn y car a mwynhau beth bynnag sydd ymlaen. Dw i yn sicr yn dechrau canu pan mae caneuon Pulp, Oasis, Blur ac unrhywbeth o’r nawdegau ymlaen. Gan fod chwaraewr CD yn fy nghar, yn ddiweddar dw i di bod yn gwrando ar albwm Al Lewis. Prynais ei albwm ‘15 years’ ar ôl y gig yn Amgueddfa Pontypridd yn ystod yr Eisteddfod. Edrych ’mlaen at ei gig yng Nghlwb y Bont ddiwedd y mis hefyd,
Dw i wrth fy modd yn darganfod mwy o gerddoriaeth Cymraeg yn ddiweddar fel Gwil Bowen Rhys, Rio 18 a cherddoriaeth gan gerddwyr lleol fel Tom Jenkins.
Beth ydi dy hoff fwyd a dy gas fwyd?
Dw i’n hoffi llawer o fwydydd. Dw i’n caru caws a dw i wir yn hoffi’r pryd o fwyd Ffrengig ‘Tartiflette’. Ro’n i’n arfer mynd ar wyliau i Annecy yn Ffrainc bob blwyddyn lle blasais hwn am y tro cyntaf. Mae gen i ddant melys felly dw i’n rili hoffi siocled a byddwn yn dewis pwdin yn lle dechreuwr mewn bwyty
Fel cas fwyd dw i’n credu byddai’n rhaid dweud bwyd y môr! Ych a fi!!
Pe byddet yn ennill pryd o fwyd mewn gwesty, pwy fyddai’r tri gwestai arall fyddai’n ymuno â ti?
Byddai’n hyfryd ennill pryd o fwyd mewn gwesty. Dw i erioed di ennill gwobr fel ’na. Potel o win mewn raffl yw’r peth mwya cyffrous dw i di ennill fel oedolyn! Byddai’n anodd dewis tri pherson, a dweud y gwir… byddai fy meibion, Osian sy’n 14 a Ioan sy’n 16 siŵr o fod yn disgwyl cael gwahoddiad. Felly dim ond un lle ar ôl… byddwn yn gwahodd un o fy ffrindiau mwya’ agos, Jo, sy’n ffrind ers yr ysgol gynradd ac wedi bod yna i fi drwy bopeth.
Pa nofel wyt ti wedi mwynhau ei darllen fwyaf?
Astudiais Lenyddiaeth Saesneg a Ffrangeg fel gradd felly dylwn siŵr o fod yn dewis un o’r clasuron ond dw i ddim yn mynd i… Mwynheuais ddarllen ‘Wintering’ gan Katherine May yn fawr iawn. Dw i di ei darllen ddwywaith a dw i’n bwriadu ei darllen eto wrth i ni symud mewn i’r Gaeaf. Mae’n trafod sut mae’r gaeaf (yn llythrennol a fel trosiad) yn rhan naturiol o fywyd a sut mae diwylliannau eraill yn ei dderbyn ac yn ei groesawu yn hytrach na brwydro yn ei erbyn. Yn ddiweddar dw i di darllen llyfr newydd gan awdur lleol o’r enw ‘Ponty, is it?’ sy’n wych a dw i wrthi yn darllen ‘Running the world’ gan Nick Butter sy’n hynod o ddiddorol. Nick oedd y person cyntaf i redeg marathon ym mhob gwlad ar y ddaear.
Pa un ydi dy hoff ffilm?
Efallai yn rhyfedd ond dw i ddim yn credu bod gen i hoff ffilm. Dw i ddim yn gwylio ffilmiau yn aml. Bob hyn a hyn dw i’n mwynhau setlo lawr i wylio ffilm, fel arfer gyda fy mab, Osian, yn enwedig adeg Nadolig. Dw i wastad wedi hoffi ‘Santa Claus: the movie’, ‘Nativity’ ac ychydig yn fwy diweddar ‘Last Christmas’.
Dw i’n rhywun sy’n hoffi bod yn yr awyr agored felly dw i’n fwy tebygol o gerdded fy nghi defaid lan y mynydd neu fynd allan am run yn hytrach na setlo lawr i wylio ffilm.
Pa adeg o’r dydd sydd orau gen ti?
Dw i’n tueddi gwasgu ‘Snooze’ pan mae’r larwm yn canu peth cyntaf a dw i’n hoffi aros lan yn hwyr, i ddarllen pan mae pawb arall yn y ty yn cysgu ac mae tawelwch o’r diwedd. ‘Night owl’ ydw i yn bendant.
Oes gen ti arferion drwg?
Dim gormod o arferion drwg y dyddiau ’ma, dw i’n gobeithio. Hoffwn fod yn fwy taclus ac efallai dylwn yfed llai o goffi! Mae fy ffrindiau yn fy nisgwyl i gyrraedd ychydig yn hwyrach na’r amser ni di cytuno arno… mae’n cymryd ymdrech arbennig i fod ar amser ond dw i wrth gwrs yn gwneud yr ymdrech ar gyfer y gwaith!
Oes unrhyw beth yn codi ofn arnat?
Dw i ddim yn ofni unrhyw beth penodol er dw i ddim yn ffan mawr o ffilmiau arswyd!
Beth ydi dy hoff anifail?
Fel plentyn, ro’n i’n caru cathod. Roedd gennym sawl cath hyfryd, yn enwedig Smokey a oedd yn dilyn fi a fy mrawd i’r ysgol gynradd! Ers 2021 mae gen i gi defaid o’r enw, Jessie a dw i nawr yn caru cŵn defaid. Dw i ddim yn gallu dychmygu fy mywyd heb Jessie. Dw i’n treulio llawer o amser gyda hi ac wedi dechrau ‘canicross’ (rhedeg gyda chŵn). Dw i methu cerdded heibio ci defaid heb stopio i ofyn ei enw ac oedran a dweud helo os ydy’r ci ddim yn rhy nerfus.
Pe byddai’n rhaid i ti adael Cymru i ble fyddet ti’n mynd?
Treuliais flwyddyn yn Ffrainc fel rhan o fy ngradd a ro’n i wastad yn bwriadu dychwelyd i fyw yna am gyfnod arall. Felly petawn i ddim yng Nghymru, byddwn yn byw yn Ffrainc ond byddai’n anodd dewis ble. Dw i wrth fy modd yn Annecy gyda’r llyn a’r mynyddoedd ond dw i hefyd yn caru bod yn agos i’r môr felly efallai rhywle yn Llydaw lle byddwn yn dysgu Llydaweg.
Pam wnest ti ymgeisio am y swydd hon?
Pan darllenais yr hysbyseb swydd, teimlais ei bod hi ’di cael ei hysgrifennu ar fy nghyfer i.
Ces i fy magu ym Mhontypridd, rwyf nawr yn byw rhwng Pontypridd a Llantrisant, mae teulu Dad o’r Rhondda ac mae teulu Mam o Gwm Cynon felly rwy’n gobeithio fy mod i’n adnabod ardal a phobl Rhondda Cynon Taf yn dda.
Rwy’n adnabod llawer o bobl ac yn gyfarwydd â llawer o fudiadau yn yr ardal drwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gwirfoddoli a’r ffaith fy mod i’n hoff iawn o sgwrsio!
Wedi dysgu Cymraeg drwy astudio Cymraeg ail iaith mewn ysgol gyfrwng Saesneg wedyn llwyddo i gael swydd fel athrawes ieithoedd tramor mewn ysgol gyfrwng Gymraeg dw i’n deall yr heriau o ddod yn rhugl yn y Gymraeg felly dw I’n angerddol am sicrhau mwy o gyfleoedd i ymarfer y Gymraeg yn y gymuned.
Mae’n fraint i gael fy nghyflogi gan Golwg. Ro’n i’n tanysgrifio i’r cylchgrawn pan ro’n i’n astudio Cymraeg lefel A ail iaith nôl yn y nawdegau. Adeg hynny ro’n i eisiau bod yn newyddiadurwraig ac ro’n i’n ysgrifennu colofn wythnosol ar gyfer y ‘Pontypridd Observer’ felly os ydy’r wefan Bro360 yn dod i RhCT byddaf wedi gwireddu hen wreuddwyd mewn ffordd!
Ac i gloi, pa wahaniaeth wyt ti’n obeithio fydd y swydd hon yn ei wneud i ardal Rhondda Cynon Taf a’r bobl?
Mae cymaint o bobl creadigol, angerddol a gweithgar yn Rhondda Cynon Taf sy’n sefydlu grwpiau, rhedeg mudiadau a threfnu digwyddiadau anhygoel. Rwy’n gobeithio y bydd y prosiect ‘Ymbweru Bro’ yn gallu helpu i greu cysylltiadau rhwng unigolion a mudiadau o fewn yr ardal ac ar draws Cymru i gryfhau prosiectau sy’n bodoli yn barod a rhoi hwb a hyder i bobl sydd gyda syniad am brosiectau newydd. Dw i’n gobeithio y bydd y Calendr360 yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo digwyddiadau er mwyn i bawb yn y sir allu manteisio ar y llu o bethau sy’n mynd ymlaen. Mae’r linc iddo ar waelod yr erthygl.
Yn ystod Eisteddfod RhCT, gwelom ni ein cymuned ar ei gorau, gwelom ni falchder yn yr iaith gyda busnesau ac unigolion yn gwneud ymdrech i ddefnyddio’r iaith a oedd ganddynt. Mae’n hynod o bwysig cofio bod yr iaith Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, y rhai sydd wedi cael y rhodd o’r iaith drwy gael eu magu’n siarad iaith y nefoedd, y rhai fynychodd ysgol gyfrwng Gymraeg, y rhai sy’n mynd ati i ddysgu’r iaith fel oedolyn a’r rhai sydd gydag ambell i air neu ymadrodd yn unig. Mae’r iaith Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom sy’n byw yn ardal RhCT.
Mae pawb yn gofyn ‘beth fydd gwaddol Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024’? Rwy’n gobeithio y bydd y prosiect Ymbweru Bro yn RhCT yn helpu i sirchau gwaddol a bydd pawb yn cofio’r ymdeimlad o falchder yn ein cymuned, ein treftadaeth, ein diwylliant a’n iaith. Hoffwn glywed mwy o Gymraeg yng nghanol y dref yn enwedig gan bobl fel fi sydd naill ai yn ddysgwyr neu’n siaradwyr ail iaith.
Gobeithiaf y bydd pob grŵp, mudiad ac unigolyn ar draws y sir yn gallu manteisio ar y prosiect rhywsut a theimlo eu bod nhw’n perthyn i’r gymuned.
Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd Rhian yn gweithio’n ddiwyd i gefnogi unigolion, mudiadau a grwpiau o bob math i fanteisio ar wahanol elfennau o’r prosiect, gan gynnwys rhoi hwb i ddigwyddiadau lleol trwy calendr360 a thrafod y syniad o sefydlu gwefan fro i ardal RhCT.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â hi drwy e-bost: rhianhopkins@golwg.cymru – byddai’n falch o glywed gennych.
Neu gallwch chi ddilyn Ymbweru Bro Rhondda Cynon Taf a chysylltu â Rhian Hopkins ar Facebook