Dewch i adnabod Daisy

Swyddog Prosiect newydd Ymbweru Bro yn ardal Wrecsam

gan Bethan Lloyd Dobson

Yn ddiweddar penododd cwmni Golwg, Daisy Williams fel Swyddog Ymbweru Bro i ardal Wrecsam. Mae’r swydd hon yn gyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth i bobl, i’r Gymraeg ac i gymuned Wrecsam.

Dyma holi ambell gwestiwn i Daisy er mwyn dod i’w hadnabod yn well…

Daisy, ar siwrne yn y car pa fath o gerddoriaeth fyddi di’n gwrando arno?

Fel person sydd yn hollol caru cerddoriaeth, mae cael tiwns da ar siwrne yn hanfodol! Fel arfer ar daith hir, byddaf yn troi at un o fy rhestrau chwarae ‘Spotify’, lle cewch weld llawer o stwff sy’n disgyn o dan y categori cerddorol ‘Indie’. Stwff fel ‘Fontaines D.C.,’ ‘The Snuts,’ ‘Catfish and the Bottlemen’ ac ella Declan Mckenna. Ond, dwi hefyd yn ffan mawr o gerddoriaeth iaith Gymraeg, felly byddaf hefyd yn dewis bandiau Gymraeg fel Mellt, Breichiau Hir a Pys Melyn.

Beth ydi dy hoff fwyd a dy gas fwyd?

Mae’r bwyd dwi’n hoffi ei fwyta yn wir newid o hyd! Ond yn gyson, rwy’n hoffi bwyta unrhyw beth sydd yn cynnwys cyw iâr. Dwi’n hollol casáu bwyta pethau gyda blas chwerw, fel sprowts!

Pe byddet yn ennill pryd o fwyd mewn gwesty, pwy fyddai’r tri gwestai arall fyddai’n ymuno â ti?

Y tri person rwy’n ddewis i ddod gyda fi ydi fy ffrind Melody oherwydd mae hi hefyd yn siarad Cymraeg, fy ffrind Molly gan ei bod wastad yn gwisgo dillad ffansi, a fy nghariad Logan sydd yn mwynau cael profiadau anturus!

Pa nofel wyt ti wedi mwynhau ei darllen fwyaf? 

Mae hyn yn ddewis anodd iawn gan fy mod yn caru darllen llwythi o nofelau, ond mae rhaid imi ddweud mai ‘Jane Eyre’ gan Charlotte Brontë yw un o’r llyfrau wnes i fwynhau darllen fwyaf. Stori hyfryd am daith bywyd ac aeddfedu, gyda theimlad cysurus o’r tymor gaeaf. Mae Jane, y prif cymeriad, yn enghraifft wych o rywun cryf sydd yn adlamol er yr holl gymhlethdodau sy’n gallu dod gyda bywyd!

Pa un ydy dy hoff ffilm?

Un o fy hoff ffilmiau yw ‘Rocketman’, sef y ffilm ‘biopic’ am fywyd Elton John. Mae Taron Egerton yn actio’r rôl yn hynod o dda, a dwi’n caru sut mae’r gwaith camera yn cipio’r amser yn mynd heibio dros holl flynyddoedd creadigol Elton John.

Pa adeg o’r dydd sydd orau gen ti?

Yn bendant, fy hoff adeg o’r dydd yw’r noswaith. Dyna pryd byddaf yn cael amser i ymlacio a dadflino ar ôl y dydd. S’dim peth gwell imi na chael y cyfle i rhoi pyjamas amdanaf a setlo gyda phaned!

Oes gen ti arferion drwg? 

Fel person sydd yn feddylgar iawn, ac yn angerddol iawn am fy niddordebau, weithiau dwi’n ffeindio fy mod yn gallu bod â barn cryf dros ben! Mae o weithiau’n cymryd amser imi weld pethau mewn ffordd wahanol.

Oes unrhyw beth yn codi ofn arnat?

Rwyf yn ofni’r tywyllwch gymaint! Dwi’n casáu pryd bynnag mae’n rhaid imi godi i fynd rywle yng nghanol y nos, pan mae pawb arall yn cysgu! Dwi’n wastad yn poeni fod anghenfil mawr yn mynd i fod yn aros amdanaf lawr y grisiau…..

Beth ydi dy hoff anifail?

Ers erioed, rwyf wedi bod yn berson sydd yn caru anifeiliaid. Cathod yw fy hoff anifail ers o’n i’n ferch fach – mae gynnon ni dair cath yn ein tŷ! Ond yn y blynyddoedd diweddar, rwyf wedi dechrau caru buchod (yn enwedig y rhai blewog!), eliffantod a chwningod.

Pe byddai’n rhaid i ti adael Cymru i ble fyddet ti’n mynd?  

Yn y pen draw, hoffwn i deithio’r byd yn gyfan! Ond i ddewis un lleoliad, mae o wastad ‘di bod yn freuddwyd imi ymweld â’r Eidal i weld yr holl dai lliwgar ac i gael blas o’r diwylliant unigryw.

Pam wnest ti ymgeisio am y swydd hon?

Rwyf wastad wedi bod yn angerddol dros y iaith Gymraeg, ac wedi dweud yn glir sawl tro am y pwysigrwydd o gynyddu y defnydd a wneir ohoni. Roeddwn hefyd yn dymuno cael gyrfa sy’n gysylltiedig â newyddiaduraeth yn y dyfodol. Ar ôl astudio fy lefel A Gymraeg ail iaith, yn ogystal â fy amser fel llysgennad i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sylwais fy mod awydd cael swydd yn y Gymraeg cyn mynd i brifysgol, a bod angen llawer mwy o hysbyseb ar gyfer cyfleoedd lleol Cymraeg yn Wrecsam. Pan welais yr hysbyseb swydd, roedd popeth ynddi yn ddymunol i mi ac yn plesio fy nymuniad. Fe wnaeth popeth ddigwydd yn union fel yr oeddwn i’n gobeithio! Rwy’n teimlo’n lwcus i gael swydd sydd yn bopeth roeddwn eisiau yr adeg hyn o fy mywyd 😊

Ac i gloi, pa wahaniaeth wyt ti’n obeithio fydd y swydd hon yn ei wneud i ardal Wrecsam a’r bobl?

Yn bersonol, credaf y byddai’n wych i’r prosiect Ymbweru Bro yn Wrecsam gynyddu’r ymdeimlad o falchder o ddefnyddio’r iaith Gymraeg a bod mwy, o ganlyniad yn ei defnyddio, yn enwedig pobl fel fi sydd naill ai yn ddysgwyr neu’n siaradwyr ail iaith. Drwy hynny, gobeithiaf mai ei waddol fydd cryfhau y teimlad o ‘berthyn’ i gymuned, a bod yn angerddol am i’r gymuned honno ffynnu. Ond hefyd, credaf ei bod yn hollbwysig fod yr holl fusnesau, digwyddiadau, grwpiau a gigs Cymraeg lleol yn gallu manteisio ar y prosiect, a chael platfform i hyrwyddo eu hunain drwy’r wefan fro a’r calendr digwyddiadau. Er nad ydi’r wefan wedi ei sefydlu eto, mae’r calendr ar gael i bawb ei ddefnyddio. Byddai’n arbennig gweld pobl Wrecsam yn gwneud defnydd ohono cyn gynted â phosib gan fod cymaint o ddigwyddiadau cyffrous ar droed.

Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, bydd Daisy yn gweithio’n ddiwyd i gefnogi unigolion, mudiadau a grwpiau o bob math i fanteisio ar wahanol elfennau o’r prosiect, gan gynnwys sefydlu gwefan fro i ardal Wrecsam, rhoi hwb i ddigwyddiadau lleol trwy calendr360 a llawer mwy.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â hi drwy e-bostio daisywilliams@golwg.cymru – byddai’n falch o glywed gennych.