Dewch I adnabod un o chwaraewyr CPD Tref Caernarfon yn well- Sion Bradley.

CPD Tref Caernarfon

Begw Elain
gan Begw Elain

Oed? 26.

O le ti’n dod? Blaenau Ffestiniog.

Swydd bob dydd/pa goleg/Ysgol? Gweithio mewn Leisure Centre dysgu plant nofio.

Pa safle wyt ti’n chwarae? Asgellwr. 

Pam benderfynais chwarae i Dre? Y Clwb mwyaf gyda chefnogwyr gorau yn y Uwch Gynghrair.

Pa mor hir wyt wedi chwarae  i Dre? Chweched tymor tymor yma. 

Hoff gêm erioed? O ran achlysur gêm cwpan vs Bangor. Ond yn bersonol y hatrick neshi sgorio vs Cardiff Met!

 Atgof gorau erioed yn yr Oval? Gêm gyntaf fi i Dre vs Cefn Druids!

Uchelgeisiau tymor yma gyda Dre? Qualifio i Ewrop.

Gôl orau erioed? Gol Vs TNS tymor yma.

Unrhyw Ffugenw? ‘Brads’.

Pa dîm wyt ti yn ei chefnogi? Everton yn anffodus!

Hoff chwaraewr pêl-droed erioed? Ronaldinho.

Hoff fwyd? Chinese!

Un peth ti ddim yn licio? Pobl yn clicio bysedd!

Cân orau erioed? Gennai ddim un can ond ‘wbath gen Adele/Tom grennan/Ed sheeran.

Ffaith ddiddorol amdan dy hun? Oni’n black belt yn karate erbyn oni’n 12 oed!

Unrhyw draddodiad/trefn benodol cyn gêm? Boots a shin pads dde ’mlaen yn gyntaf.