Cynnydd yn nylanwad adeilad S4C, Yr Egin ar gymuned leol Caerfyrddin

Mae cynnydd wedi bod yn nylanwad Yr Egin wrth i’r Ganolfan lwyddo i gadw pobl ifanc yn eu bro

Lloyd Jenkins
gan Lloyd Jenkins
Yr_Egin900

Daeth yr Egin, pencadlys S4C, i dref Caerfyrddin yn 2018

Ers i ddrysau’r Egin agor nôl yn Nhachwedd 2018, mae pencadlys S4C, Yr Egin, wedi cael dylanwad sylweddol ar gymuned leol dref Caerfyrddin ac wedi profi i fod yn lleoliad sydd bellach yn atynnu gweithwyr ledled Cymru i bob math o swyddi yno, gan gynnwys pobl leol.

Dylanwad cadarnhaol Yr Egin ar weithwyr ifanc lleol

Mae bodolaeth Yr Egin yng Nghaerfyrddin wedi sbarduno cyfleoedd swyddi a hyfforddiant i fwyfwy o bobl dros y pum mlynedd diwethaf sydd wedi galluogi S4C i ymgysylltu a chymuned leol Caerfyrddin. Mae Iestyn O’Leary, cyn-ddisgybl Ysgol Bro Myrddin, o dref Caerfyrddin yn wreiddiol, bellach yn gweithio yn Yr Egin ar ôl iddo raddio ym Mhrifysgol Salford, Manceinion llynedd. Cafodd radd yng nghynhyrchu ffilm sydd wedi arwain ato’n gweithio i gwmni cynhyrchu ‘Carlam’ wedi’i leoli yng Nghaerfyrddin.

Mae’r cyfleoedd hyn sy’n cael eu cynnig fwyfwy yn niwydiant Cymreig lleol yn amlwg yn atynnu’r gymuned gan gadw gweithwyr fel Iestyn rhag symud i weithio i ffwrdd yn y diwydiannau mawr. Mae dyfodol y Celfyddydau yn ardal Caerfyrddin yn edrych yn addawol gyda’r cynnydd yng nghyfleoedd a phrofiadau sy’n cael eu darparu yn Yr Egin. Mae presenoldeb Yr Egin felly, wedi bod yn ganolog i hyn wrth i’r adeilad ddod â’r lleol ynghyd boed yn gyfleoedd swyddi, profiad gwaith neu yn brofiad gwerthfawr yng nghartref Celfyddydau ardal Caerfyrddin.

Swyddogaeth Yr Egin o fewn y gymuned leol

Ers i’w agoriad yn 2018, mae adeilad yr Egin wedi chwarae rhan ddylanwadol yn lledaenu S4C i’r gymuned leol gyda nhw yn datgan o’r cychwyn mai bwriad y pencadlys oedd nesáu at gymunedau lleol Cymru drwy gael dylanwad diwylliannol ar gymunedau lleol, y tu allan i’r brifddinas, Caerdydd yn ogystal â chynnig cyfleoedd swyddi a hyfforddi i drigolion lleol. Mae’r adeilad yn un amlbwrpas sy’n cynnwys awditoriwm, ystafelloedd golygu, ardaloedd perfformio a swyddfeydd.

Dros y pum mlynedd diwethaf, cynhaliwyd llu o ddigwyddiadau amrywiol yno megis gweithdai ffilm a theledu i bobl ifanc, talwrn y beirdd yn flynyddol yn ogystal â pharatoadau ysgolion y sir ar gyfer Prosiect ’23 yr Urdd llynedd. Mae’r adeilad wedi profi i fod yn hynod o ddylanwadol i bobl o bob oedran ac mae cyfraniad y pencadlys i’r gymuned leol yn amlwg wedi llwyddo i hybu Cymreictod yn yr ardal leol.

Mae adeilad Yr Egin, hefyd yn adnabyddus am fod yn gartref i raglen Jonathan ers ei agoriad yn 2018, sydd wedi hybu cyhoeddusrwydd y lle cryn dipyn. Daw cynulleidfaoedd y rhaglen o wahanol ysgolion ar draws yr ardal leol sy’n denu’r gymuned leol i’r Egin ac ar ben hynny, yn llwyddo i gysylltu â phobl leol.

Rôl S4C a’r llywodraeth tuag at sefydlu’r adeilad

Gyda’r bwriad o sicrhau dyfodol i ddiwylliant Cymreig lleol, mae S4C a’r Llywodraeth wedi chwarae rôl hynod ddylanwadol tuag at wireddu hyn wrth i fuddsoddiad o ddeg miliwn gael ei wneud tuag at yr adeilad gan lywodraeth y Deyrnas Unedig nol yn 2018. Dywed Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns;

“Mae Llywodraeth y DU am weld y sianel yn ffynnu ac yn croesawu’r cyfleoedd sydd o’i blaen mewn oes ddigidol newydd.”

Ychwanegodd y Gweinidog Llywodraeth i Gymru, Lourd Bourne;

“Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod gwerth S4C i gryfhau gwytnwch y Gymraeg, a’r effaith drawsnewidiol y bydd y sianel yn ei chael ar economi Gorllewin Cymru drwy adleoli i ffwrdd o’r brifddinas. Drwy ganfyddiadau’r adolygiad annibynnol diweddar, rydym yn gweithio i sicrhau newid gwirioneddol i sicrhau y gall S4C wasanaethu cynulleidfaoedd Cymraeg y dyfodol yn well.”