Cynllun fy Mhlât Bwyd yn dod â realiti o’r fferm i’r plât yn fyw.

“Fy Mhlât Bwyd”: Prosiect Sy’n Cipio Sylw ac Yn Codi Balchder yn Sir Gâr.

Cara Medi Walters
gan Cara Medi Walters
Llun yn datgan yr ail wobr

“Fy Mhlât Bwyd”: Prosiect Sy’n Cipio Sylw ac Yn Codi Balchder yn Sir Gâr.

Mae Mudiad Ffermwyr Ifanc Sir Gâr wedi llwyddo’n rhagorol gyda’i brosiect arloesol, “Fy Mhlât Bwyd”, sydd wedi trawsffurfio’r ffordd mae plant ysgolion cynradd yn deall amaethyddiaeth, tarddiad bwyd, a sgiliau bywyd hanfodol. Wedi’i drefnu gan dîm brwdfrydig yn cynnwys Esyllt, Caryl, a Carys, mae’r prosiect nid yn unig wedi derbyn canmoliaeth leol ond hefyd gydnabyddiaeth ryngwladol, gan gipio’r ail safle yng nghystadleuaeth Prosiect y Flwyddyn Rural Youth Europe.

Syniad a Wreiddiwyd yn Realiti

Dechreuodd y prosiect fel syniad gan Carys, trefnydd sir Mudiad Ffermwyr Ifanc Sir Gâr, sy’n disgrifio’r syniad fel un a aned o’i phrofiadau personol fel rhiant. “Bach o brain-child fi oedd hwn,” esboniodd Carys, gan bwysleisio ei hawydd i bontio’r bwlch rhwng cymunedau gwledig a’r rhai heb gysylltiad uniongyrchol ag amaethyddiaeth. “Rhoies i brain-dump i Esyllt – dyma beth dwi ishe, dyma dwi ishe gweld yn digwydd.”

Gyda chreadigrwydd a sgiliau trefnu, trodd Esyllt, Swyddog Ieuenctid Gwledig, y syniad yn realiti. “Syniad Carys oedd hwn yn wreiddiol,” eglurodd Esyllt, gan bwysleisio’r cydweithio clos rhwng y tîm i wireddu’r weledigaeth.

Profiadau Addysgiadol Gwerthfawr

Am dri diwrnod, bu’r prosiect yn cynnig gweithgareddau addysgiadol rhyngweithiol i blant ysgolion cynradd, gyda phwyslais ar ddeall tarddiad bwyd, amaethyddiaeth, a sgiliau coginio sylfaenol. Roedd gweithgareddau’n cynnwys popeth o dreialon cŵn defaid i blannu sbigoglys a choginio. Roedd y plant hefyd yn derbyn y cyfle i ddysgu am anifeiliaid fel geifr, ieir, a defaid, a sut mae cynnyrch lleol fel caws a llaeth yn cael eu cynhyrchu.

Roedd y sesiynau coginio yn uchafbwynt y digwyddiad, gyda chefnogaeth gan Hybu Cig Cymru a Chastell Howell. “Un peth ro’n i rili ishe dysgu’r plant oedd coginio, sgiliau bywyd dwi’n teimlo sy’n bwysig iawn,” dywedodd Esyllt, gan bwysleisio’r angen i feithrin sgiliau ymarferol a gwerthfawrogiad o fwyd lleol o safon uchel.

Effaith Ddyfnach ar Gymunedau

Roedd Caryl Jones, cadeirydd Mudiad Ffermwyr Ifanc Sir Gâr, yn falch o weld effaith y prosiect ar blant, rhieni, ac athrawon. “Mae’r digwyddiad hwn nid yn unig yn cynnig addysg ond hefyd yn agor llygaid pobl i fyd amaethyddiaeth,” nododd. Roedd athrawon yn canmol yr ystod eang o weithgareddau ac yn mynegi dymuniad i weld digwyddiadau tebyg yn digwydd yn rheolaidd.

Yn ogystal â darparu profiadau uniongyrchol, roedd y digwyddiad yn hyrwyddo cynaliadwyedd trwy annog cefnogaeth i gynhyrchwyr lleol a lleihau milltiroedd bwyd. “Mae’n dangos pa mor bwysig yw cefnogi ein ffermwyr a’n cynhyrchwyr lleol,” ychwanegodd Caryl.

Llwyddiant Rhyngwladol ac Enw Da

Roedd y prosiect yn ddigon llwyddiannus i dderbyn enwebiad gan C.Ff.I. Cymru ar gyfer Prosiect y Flwyddyn Rural Youth Europe. “Roedd yn rial emosiynol – rhywbeth oedd yn fy mhen fi, o’n i rili ishe neud,” mynegodd Carys wrth adlewyrchu ar yr anrhydedd.

Cafodd y prosiect 80% o’i sgôr gan banel o feirniaid a 20% gan bleidleisiau ar-lein. “Daethon ni’n ail yn y pleidleisiau ac yn ail dros y prosiect i gyd,” esboniodd Carys, gan bwysleisio’r balchder roedd y tîm yn ei deimlo wrth weld eu gwaith yn cael ei gydnabod ar lefel Ewropeaidd.

Edrych i’r Dyfodol

Mae Mudiad Ffermwyr Ifanc Sir Gâr yn gobeithio ehangu’r prosiect, gan gynnwys ysgolion uwchradd ac adeiladu ar lwyddiant y digwyddiad trwy ddatblygu adnoddau dysgu digidol a phartneriaethau newydd. “Mae’n bwysig i ni fynd â hyn ymhellach,” eglurodd Esyllt, gan ddangos penderfyniad i barhau i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.

Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys cydweithio ag ysgolion a cholegau fel Coleg Gelli Aur i gyflwyno elfennau newydd, megis dysgu technegol am ffermio a chynaliadwyedd. “Mae’r prosiect yn ffordd wych o bontio’r cenedlaethau ac o agor llygaid pobl ifanc i gyfleoedd ehangach yn amaethyddiaeth,” ychwanegodd Caryl.

Balchder Sir Gâr

Mae “Fy Mhlât Bwyd” yn fwy ’na phrosiect addysgiadol – mae’n ddatganiad am y cryfder a’r arloesedd sy’n perthyn i Sir Gâr. Mae’r prosiect yn meithrin balchder yn y gymuned wledig ac yn tanlinellu’r cysylltiad hanfodol rhwng amaethyddiaeth a bywyd bob dydd.

Gyda’r cydweithio angerddol yn y mudiad, mae’r prosiect wedi profi nad yw’r hyn sy’n dechrau fel syniad bach yn ddim llai na chwyldro mewn dysgu. Wrth i’r prosiect barhau i dyfu, mae’n gosod esiampl i eraill ar sut y gall addysg, cymuned, a chreadigrwydd lunio dyfodol disglair i amaethyddiaeth ac i’n cymunedau gwledig.

Dweud eich dweud