Cymreictod yn ein DNA?
Erbyn hyn, mae cymryd prawf DNA’n bobologaidd iawn, ac mae pobl yn prynu profion DNA am nifer o resymau gwahanol. Efallai eu bod nhw eisiau ateb cwestiynau teuluol neu gael gwybodaeth am eu hiechyd, ond hefyd darganfod eu hethnigrwydd.
Mae’r astudiaeth “People of the British Isles”, prosiect gan Brifysgol Rhydychen, wedi casglu samplau gwaed gan tua 4,500 o wirfoddolwyr o ardaloedd gwledig ledled y DU. Ganed pob un o’r pedwar nain a thaid y gwirfoddolwyr a ddewiswyd yn yr astudiaeth hon o fewn 80 km i’w gilydd.
Mae canlyniadau’r astudiaeth yn dangos bod Cymru’n ffurfio grŵp genetig penodol, ac mae yna raniad pellach rhwng Gogledd a De Cymru. Ymddengys fod y Cymry yn debycach i ymsefydlwyr cynharaf Prydain ar ôl yr oes iâ ddiwethaf na phobl eraill yn y DU.
Felly mae DNA pobl Cymru yn unigryw, ond oes rhaid i ni gael ein geni yng Nghymru i fod yn Gymro neu’n Gymraes?
Pwy oedd y Cymro enwog yn Ffrainc yn 1918 a lofnododd Gytundeb Versailles? Prif Weinidog David Lloyd George, wrth gwrs. Ganwyd Lloyd George ym Manceinion ac mi ddywedodd unwaith “ond ces i fy nghenhedlu yn Llanystumdwy!”
Er mai yn Lloegr y ganwyd ef, Llanystumdwy yn Eifionydd fu ei ‘gartref’ erioed ac Cymraeg oedd ei iaith gyntaf. Fyddai neb yn ystyried David Lloyd George yn Sais!
Yn ddiweddar gwnes i arolwg lle gofynnais gwestiynau i bobl oedd wedi gwneud prawf DNA. Fe wnes i holi cwestiynau am eu rhesymau dros wneud prawf, eu canlyniadau ethnigrwydd, a’u hagweddau tuag at eu hachau Cymreig.
Cymry oedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr, ond roedd rhai o Loegr neu Ganada. Ancestry oedd y cwmni mwyaf poblogaidd, ond prynodd rhai pobl brofion o 23andme ac MyHeritage.
Dangosodd y canlyniadau fod ethnigrwydd Cymreig yn amrywio o 16% i 100%. Soniodd y mwyafrif am eu balchder o’u hethnigrwydd Cymreig, ond atebodd rhai fod DNA o Loegr neu o Iwerddon yn bwysicach.
Dwedodd 40% o bobl eu bod nhw’n siarad Cymraeg ac roedd y rheini’n fwy tebygol o ystyried eu hethnigrwydd Cymreig yn bwysig iawn. Roedd un person, Nerys, wedi siomi ar ôl iddi ddarganfod fod ganddi lai o DNA Cymreig na’i gŵr Chris sy’n ystyried ei hun yn Sais ac doedd e ddim yn gwybod ei fod o dras Gymreig!
Fel yr unig person a gafodd wybod ei bod hi gant y cant yn Gymraes, atebodd Meri am sut mae hi’n teimlo tuag at ei hethnigrwydd Cymreig. “Yn bwysig iawn. Mae’n rhan o bwy ydw i. Rwy’n siarad yr iaith ac wedi cael fy magu o fewn diwylliant Cymreig. Rwy hefyd yn ymwybodol bod fy hynafiaid wedi byw yng Nghymru ers canrifoedd ac felly rwy’n rhan o’r llinell yna.”
I grynhoi, mae’n amlwg bod Cymreictod yn ein DNA. Rydyn ni wedi’i etifeddu gan ein hynafiaid dros y canrifoedd.
Does dim rhaid i ni gael ein geni yng Nghymru na hyd yn oed siarad yr iaith i ystyried ein hunain yn Gymry. Wrth gwrs, mae siarad Cymraeg yn anrheg anhygoel ychwanegol.
Mi all gwaed ddweud y gwir am ein hetifeddiaeth, a bydd ein calonnau’n canu’n falch am Gymru a’r Cymry am byth!