Cyfle i gymunedau Sir Gâr a Gwynedd gyfan gael gwefannau bro

Bro360 eisiau clywed eich barn am y cyfle arbennig

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Ydych chi’n byw yn Sir Gâr, Llŷn, Eifionydd, neu ym mröydd Ardudwy, Dysynni neu Ffestiniog?

Mae ‘na drafodaethau am greu gwefan fro i’ch ardal chi. Platfformau Cymraeg ar-lein, tebyg i Clonc360 neu Caernarfon360, efallai…

Hoffem glywed eich barn am y cyfle! Llenwch ein holiadur heddiw.

Diolch i Gronfa Her ARFOR am gefnogi’r prosiect, ac i IAITH Cyf am gynnal yr ymchwil.