Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon yn cyhoeddi Partneriaeth arloesol gyda The Deep.

CPD Tref Caernarfon

Begw Elain
gan Begw Elain

Mewn symudiad arloesol sy’n gosod cynsail newydd ym mhêl-droed Cymru, mae Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon wrth eu bodd yn cyhoeddi eu partneriaeth gyda’r asiantaeth greadigol uchel ei pharch, The Deep. Mae’r cydweithrediad nodedig hwn yn nodi’r tro cyntaf y bydd gan dîm ym mhyramid pêl-droed Cymru gyfarwyddwr creadigol ymroddedig, sy’n rhagflaenu cyfnod newydd o ragoriaeth ddiwylliannol a chreadigol yn bêl-droed.

Nod y bartneriaeth arloesol hon yw i ‘blendio’ treftadaeth gyfoethog Tref Caernarfon a diwylliant Cymraeg bywiog y dref yn ddi-dor â strategaethau creadigol blaengar i ailddiffinio’r profiad pêl-droed, nid yn unig i’r cefnogwyr ond i’r gymuned yn gyffredinol. The Deep Creative fydd y pensaer y tu ôl i hunaniaeth brand newydd y clwb, presenoldeb digidol, mentrau ymgysylltu â chefnogwyr, a phrosiectau diwylliannol.

“Mae ein cydweithrediad â The Deep Creative yn llawer mwy na phartneriaeth; mae’n ddathliad o ddiwylliant, hanes, a phêl-droed Cymru,” meddai Paul Evans, Cadeirydd. “Mae hon yn foment sy’n torri tir newydd i ni wrth i ni ddod y clwb cyntaf ym mhyramid Cymru i’w llogi yn rôl cyfarwyddwr creadigol, gan osod safon newydd ar gyfer arloesedd yn y gynghrair.”

Bydd The Deep yn canolbwyntio ar ymhelaethu ar hunaniaeth Gymreig unigryw Tref Caernarfon, gan fanteisio ar ganran uchel y dref o siaradwyr Cymraeg, a’i gwreiddiau hynod hanesyddol i ysbrydoli cefnogwyr, denu cynulleidfaoedd newydd, ac ymgysylltu â’r gymuned ar lefelau digynsail. Bydd ymdrechion yr asiantaeth yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau, o ail-ddychmygu hunaniaeth weledol y clwb i integreiddio diwylliant Cymreig i bob agwedd o brofiad y cefnogwr, o nwyddau i gitiau ac ymgyrchoedd.

“Mae pêl-droed yn ymwneud â mwy na dim ond y gêm; mae’n ymwneud â chymuned, hunaniaeth, a threftadaeth,” meddai The Deep mewn datganiad. “Ein gweledigaeth gyda Chaernarfon yw creu rhywbeth cwbl unigryw yn y byd pêl-droed, lle mae hunaniaeth Gymreig a threftadaeth ddiwylliannol y clwb nid yn unig yn cael eu cadw ond yn cael eu dathlu a’u plethu i wead y tîm a’i gefnogwyr.”

Mae’r bartneriaeth hon yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn nyfodol CPD Tref Caernarfon, ar y cae ac oddi arno. Trwy gofleidio ei threftadaeth ddiwylliannol a gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl yn greadigol, mae Caernarfon nid yn unig yn gosod safon newydd i glybiau pêl-droed Cymru ond hefyd yn sicrhau bod y clwb yn parhau’n rhan hanfodol a bywiog o’r gymuned Gymraeg am genedlaethau i ddod.

Bydd ymgynghoriadau â chefnogwyr a chynllunio strategol yn dechrau ar unwaith, gyda chyflwyniad y bartneriaeth hon yn dechrau yn nhymor 24/25.

Am ragor o wybodaeth am Glwb Pêl-droed Tref Caernarfon a’i bartneriaeth gyda The Deep, cysylltwch â naill ai drwy eu sianeli cyfryngau cymdeithasol. Ar X, fe welwch ni yn @CaernarfonTown a The Deep yn @thedeepcreative.

Am The Deep:

Mae The Deep yn cyfuno diwylliant, celf a chreadigedd i gynhyrchu gwaith digidol a chorfforol unigryw i optimeiddio ymgysylltiad, cyrhaeddiad ac effaith trwy adrodd straeon a chyfathrebu, gan alluogi ein cleientiaid i sefyll allan mewn marchnad fyd-eang orlawn a chystadleuol.