Dyma i chi flas o’r straeon sydd wedi’u cyhoeddi gan bobl y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, ar rwydwaith y gwefannau bro yn yr wythnos ddiwethaf…
“Seren wib a adawodd lwybr o wreichion gogoneddus”
Gan Huw Tegid Roberts ar Môn360 cewch hanes darlith gan y Parchedig Iwan Llewelyn Jones yng Nghymdeithas Lôn y Felin. Testun ei ddarlith oedd y Parchedig R.O.G. Williams – ‘ROGW’, sef un o aelodau ‘Triawd y Coleg’.
“Seren wib a adawodd lwybr o wreichion gogoneddus”
Dysgu Cymraeg
Ar Tegid360 gan Alan Whitehead cewch hanes ei brofiad yn dysgu’r Gymraeg ers iddo symud i’r Bala yn 2014.
Plac Coffa
Ar DyffrynNantlle360 a hynny gan Anwen Harman cewch ddarllen am ymdrech criw bychan prysur sydd wedi sicrhau fod plac coffa bellach wedi ei osod i goffáu dynion o Ddyffryn Nantlle roddodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd.
Straeon lleol poblogaidd yr wythnos
Agoriad swyddogol Cylch Meithrin Pont Pedr. Clonc360
Cyngerdd yn Amgueddfa Ceredigion i godi arian ar gyfer Wcrain. BroAber360
Gêm anodd, ond buddugoliaeth i Dîm Rygbi Aberaeron. Aeron360