Dyma i chi flas o’r straeon sydd wedi’u cyhoeddi gan bobl y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, ar rwydwaith y gwefannau bro yn yr wythnos ddiwethaf…
Cofio Ciliau Parc💙
Cyn hir bydd drysau Ysgol Ciliau Parc yn cau a drysau ysgol newydd Dyffryn Aeron yn agor. Ar Aeron360 gan Ffion Evans. cewch wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau sy’n cymryd lle i ddathlu hanes yr hen ysgol fach cyn i’w thymor olaf ddod i ben.
Gigs Lleol Llanrug
Ar BroWyddfa360 gan Nel Pennant Jones cewch hanes gwaith Donna Taylor yn trefnu gigs Cymraeg yn nhafarn Penbont, Llanrug, gyda’r elw’n mynd i elusennau lleol.
Nodi Diwrnod Heddwch Rhyngwladol ar Fynydd Epynt
Ar BroAber360 gan Gôr Gobaith cewch hanes cyfarfod Cymdeithas y Cymod ar Fynydd Epynt i ddangos eu cenogaeth am heddwch a’u cais i ddychwelyd y tir i bobl Cymru.
Nodi Diwrnod Heddwch Rhyngwladol ar Fynydd Epynt
Straeon lleol poblogaidd yr wythnos
- Cylch Meithrin Tregaron yn agor ei ddrysau’n swyddogol. Caron360.
- Siom i olffwyr Y Bala yn rownd derfynol Pencampwriaeth Golff Gogledd Cymru. Tegid360.
- Y label recordiau Fflach yn trosi i fod yn Fflach Cymunedol. BroCardi360.