Blas o’r bröydd 2 Medi 2024

Newyddion o’r gwefannau

Dyma i chi flas o’r straeon sydd wedi’u cyhoeddi gan bobl y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, ar rwydwaith y gwefannau bro yn yr wythnos ddiwethaf…

Carnifal Coch, Melyn ac Oren.

Ar Aeron360 gan Mair Jones, cewch ddarllen hanes am y penwythnos prysur fu yn Aberaeron. Dechreuodd y cyfan gyda’r Ŵyl Fecryll. Roedd y strydoedd yn llawn wrth i’r orymdith gychwyn yn araf o’r harbwr tuag at y Clwb Hwylio i gyfeiliant Band Jazz Adamant. a’r merched yn eu galar tu ôl i fygydau yn eu gwisgoedd duon yn crïo’n ddi-stop.

Ar BroAber360 gan Huw Llywelyn Evans cewch hanes y paratoadau ar gyfer Rali Ceredigion JD Machinery 2024. Mae gwaith caled clybiau moduro Aberystwyth, Llambed, Dyffryn Teifi a’r Drenewydd i drefnu Rali Bae Ceredigion am y tro cyntaf yn 2019 wedi talu ar ei ganfed. Bydd mwy am hyn yn sicr ar y gwefannau bro yn ystod yr wythnos.

Rali-Ceredigion-2023-Ennillydd

Rali Ceredigion 2024

Huw Llywelyn Evans

Cant a hanner o geir yn cystadlu o ddydd Gwener tan ddydd Sul nesaf

Clwb Ffermwyr Ifanc Llanddewi Brefi

Ar Caron360 gan Mari Edward cewch hanes llwyddiant ysgubol Clwb Ffermwyr Ifanc Llanddewi Brefi yn y Sioe Frenhinol . Yn ogystal a hynny cewch hanes sawl aelod arall  o’r clwb sydd wedi llwyddo mewn cystadlaethau eraill.

Straeon lleol poblogaidd yr wythnos

  1. Hanes llwyddiant lliwgar Sioe Garddwriaethol Cynwyd gan Delyth Thomas – Tegid360.
  1. Elliw Grug yn ennill gwobr Tywysydd Ifanc buddugol Gwledydd Prydain gan Dylan Lewis – Clonc360
  1. Llwyddiant Marchnad Lleu gan Anwen Harman – DyffrynNantlle360