Dyma i chi flas o’r straeon sydd wedi’u cyhoeddi gan bobl y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, ar rwydwaith y gwefannau bro yn yr wythnos ddiwethaf…
Noson Ddathlu 10 Ysgol Gynradd Rhos Helyg
Ar Caron360 gan Efan Williams, cewch hanes noson hwyliog i ddathu pen-blwydd Ysgol Gynradd Rhos Helyg yn 10 mlwydd oed yn Nhafarn y Bont. Noson wych o gymdeithasu a chyflwyno gwobrau arbennig.
Hogia Bodwrog yn codi hwyl yn Llangefni
Ar Môn360 cewch ddarllen am chwip o noson agoriadol Cymdeithas Lôn y Felin, Llangefni yn Neuadd T. C. Simpson. Yno i’w diddanu roedd Hogia Bodwrog yn canu’r hen ffefrynnau.
Hogia Bodwrog yn codi hwyl yn Llangefni
Atal y Môr – Amddiffyn y Dre
Ar BroAber360 gan Catherine Taylor cewch ddarllen llythyr i Gyngor Tref Ceredigion gan grŵp sydd yn nofio’n gyson ger y bandstand, yn nodi eu prydeon am ymgynghoriad cynllun arfaethedig Cyngor Sir Ceredigion i amddiffyn y dre rhag y môr.
Straeon lleol poblogaidd yr wythnos
Straeon lleol poblogaidd yr wythnos
Hanes cyngerdd arbennig yng Nghorlan Ddiwylliant Llangwm. Tegid360.
Lluniau arbennig o Lewyrch yr Arth a hanes Bethan yn troedio i wahanol leoliadau i sicrhau nad oedd yn methu dim o’r sioe. DyffrynNantlle360.
Hanes noson i ddweud diolch i Elliw Dafydd am ei gwaith yn sefydlu Ysgol Cribyn fel canolfan gymdeithasol. Aeron360.