Blas o’r bröydd 7 Hydref 2024

Straeon o’r gwefannau

gan Bethan Lloyd Dobson

Cynrychioli Cymru ar y beiciau modur

Ar Clonc360 gan Aled Evans cewch hanes Sion Evans o Gwmann a Carwyn Rosser o Bentrebach, yn ail-adrodd hanes dau feiciwr arall o’r ardal ym myd beicio modur.

Llun-ISDE-2024

Cynrychioli Cymru ar y beiciau modur

Aled Evans

Dau o fechgyn ifanc ardal Llambed i rasio Enduro tros Gymru allan yn Sbaen ganol mis Hydref.

Gardd Nant

Ar DyffrynNantlle360 gan Anwen Harman cewch hanes criw prysur grŵp Cyfeillion Talysarn a Nantlle wrth iddynt fynd ati i greu gardd gymunedol yn y pentref.

Gardd Nant

Anwen Harman

Gardd Nant yn Fyw mewn Lliw

Ar Ogwen360 gan Carwyn Meredydd cewch ddarllen sgwrs  ddifyr rhyngddo â Meleri Davies, arferai weithio fel Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen.

Mel

“Dwi’n caru byw yma”: Meleri Davies sy’n sôn am y pethau sy’n bwysig iddi

Carwyn

Wrth gamu lawr fel prif swyddog Partneriaeth Ogwen, cawn glywed am gynlluniau Mel am beth sydd nesa’

Straeon lleol poblogaidd yr wythnos

  1. Hanes lansiad cyfrol arbennig, Yr Enwog Bererinion gan Mari Ellis.BroAber360
  2. Tîm hoci menywod Castell Newydd Emlyn yn cael gêm gyfartal yn erbyn tîm Kington. Carthen360.
  3. Erin Tomos yn ennill Tlws Yr Ifanc yn Eisteddfod Felin-fach. Aeron360.