Dyma i chi flas o’r straeon sydd wedi’u cyhoeddi gan bobl y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, ar rwydwaith y gwefannau bro yn yr wythnos ddiwethaf…
Clwb Rygbi Aberystwyth (Adran 1 Gorllewin) yn curo Clwb Rygbi Pwllheli (Adran 1 Gogledd) 29 – 20 mewn gêm gyfeillgar.
Gan Helen Davies ar BroAber360 cafwyd hanes gêm a gafodd ei haflonyddu gan giciau o’r smotyn a cham-ddisgyblaeth. Roedd y ddwy ochr yn ei chael hi’n anodd ennill unrhyw fomentwm. Er hyn roedd y tîm cartref yn haeddiannol yn ennill gan ddangos sgiliau da mewn chwarae agored.
Aduniad teimladwy yn Llambed
Mared Anthony ar Clonc360 sy’n rhoi hanes aduniad cyn-fyfyrwyr Coleg Prifysgol Dewi Sant. Cyfle i hen ffrindiau i hel atgofion am eu dyddiau ym Mar yr Undeb a’r gymuned glos a wnaeth eu blynyddoedd prifysgol yn fythgofiadwy.
Aduniad teimladwy yn Llambed
Llyfrgell y Petha Dyffryn Ogwen ar agor nawr!
Gan Abbie Jones ar Ogwen360 cawn hanes ‘Llyfrgell y Petha’. Prosiect rhwng Partneriaeth Ogwen, Llyfrgelloedd Gwynedd a Benthyg Cymru i ddarparu’r gwasanaeth effeithlon, lle mae’n bosib benthyg teganau a phecynnau crefft o Lyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen!.
Llyfrgell y Petha Dyffryn Ogwen ar agor nawr!
traeon lleol poblogaidd yr wythnos
1 . Hanes gemau pêl-droed Clwb Y Felinheli gan Gwilym John ar BangorFelin360
- Gwahoddiad i ail fyw Breuddwyd Roc a Rôl Cymru gan Delyth Thomas ar Tegid360
- Hanes Sioe flynyddol Penrhyn-coch gan Richard Owen ar BroAber360