Dyma i chi flas o’r straeon sydd wedi’u cyhoeddi gan bobol y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, ar rwydwaith y gwefannau bro yn yr wythnos ddiwethaf…
Ffarwelio â Gweinidog Diwyd
Ar BroAber360 cewch hanes gan Marian Beech Hughes am wasanaeth lle y daeth cynulleidfa luosog o holl gapeli Gofalaeth y Garn i wasanaeth teimladwy yng Nghapel y Garn, ar achlysur ymddeoliad eu gweinidog, y Parch Dr R Watcyn James.
https://broaber.360.cymru/2024/ffarwelio-gweinidog-diwyd/
Cau Ysbyty Tregaron
Yna, gan Gwion James ar Caron360 cewch ddarllen am fwriad Bwrdd Iechyd Hywel Dda i gau Ysbyty Tregaron ym Mis Medi eleni. Mae’r Ysbyty cymunedol wedi bod ar safle Heol Dewi er dros ganrif ac wedi cynnig gwasanaeth arbennig i gymunedau gwledig yr ardal.
https://caron.360.cymru/2024/ysbyty-tregaron/
Cyfeillion Talysarn a Nantlle
Ac ar DyffrynNantlle360 cewch stori gan Anwen Harman am grŵp cymunedol ‘Cyfeillion Talysarn a Nantlle’ yn creu gardd gymunedol, ‘Gardd Nant’ yn Nhalysarn. Safle agored ydyw, a lle i gael munud i feddwl, dysgu am iechyd, garddio a natur. Maent hefyd yn cynnal amrywiol sesiynau eraill yn y ganolfan i drigolion yr ardal.
https://dyffrynnantlle.360.cymru/2024/cyfeillion-talysarn-nantlle/
Straeon lleol poblogaidd yr wythnos
C.Ff.I. Felinfach yn, cyflwynwo sieciau i ddwy elusen.
Aeron360.
https://aeron.360.cymru/2024/07/31/ffermwyr-ifanc-rhoi-hael-elusennau/
Bwriad RWE i godi hyd at 9 tyrbin enfawr, 200metr o uchder yn ardal Llandderfel.
Tegid360
https://tegid.360.cymru/2024/07/27/ffermydd-gwynt-arfaeth/
Aelod o Glwb Hen BeiriannauTalgarregynarddangosyn y SioeFrenhinol.
Cwilt360