Blas o’r bröydd 22 Gorffennaf 2024

Rhai o’r straeon lleol mwyaf poblogaidd ar y gwefannau bro yr wythnos hon

gan Bethan Lloyd Dobson

Dyma i chi flas o’r straeon sydd wedi’u cyhoeddi gan bobol y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, ar rwydwaith y gwefannau bro yn yr wythnos ddiwethaf…

Adfer hen orsaf Derry Ormond

Ar Clonc360 cewch hanes Sonia Gibbon o Lanwnnen a’i merch Eloise wedi buddsoddi llawer dros y blynyddoedd diwethaf drwy adfer hen orsaf Derry Ormond i’w chyflwr gwreiddiol.

1fa2b7a3-609c-48d2-bcb4

Adfer hen orsaf Derry Ormond

Dylan Lewis

Atyniad newydd i dwristiaid ym Metws Bledrws

 

Y Talbot yn Ennill Gwobr Tafarn y Flwyddyn yr AA i Gymru

Draw ar Caron360 cewch hanes Gwesty’r Talbot sydd wedi cael ei anrhydeddu â Gwobr Tafarn y Flwyddyn yr AA. Mae’r anrhydedd hwn, un o’r cydnabyddiaethau uchaf yn y diwydiant lletygarwch, yn dathlu gwasanaeth eithriadol, lletygarwch cynnes, ac ymrwymiad Y Talbot i roi profiad rhagorol i westeion.

 

15 Copa i gofio Gareth Parc

Yna ar Tegid360 cewch hanes Morus a Gruff yn cwblhau her y 15 copa i gofio am eu tad, Gareth, a chasglu arian ar gyfer Mind Cymru. Ymunodd neiaint Gareth – Robat a Miall, a ffrind i Gruff – Gethin, efo’r ddau ar yr her, a hefyd Elin, Gwenllian a Lois ar gyfer y 7 mynydd olaf. Llwyddodd y pump i gwblhau’r her – o un copa i’r llall – mewn amser o 13 awr a 50 munud.

15 Copa i gofio Gareth Parc

Mirain Llwyd Roberts

Her yng nghanol mynyddoedd Eryri i gofio gwr, tad, brawd, yncl a ffrind arbennig

 

Straeon lleol poblogaidd yr wythnos

  1. Llwyddiant Stevie Williams ar gwblhau ras beicio fwya’r byd y Tour de France, gan Huw Llewelyn Evans ar BroAber360.
  2. Pryder am fwriad Bwrdd Iechyd Hywel Dda i gau Ysbyty Tregaron ym Mis Medi eleni, gan Gwion James ar Caron360.
  3. Manon Steffan Ros yn derbyn anrhydedd gan ddwy brifysgol, gan Carwyn Meredydd ar Ogwen360.