Blas o’r bröydd

Y straeon diweddaraf

gan Bethan Lloyd Dobson

Dyma i chi flas o’r straeon sydd wedi’u cyhoeddi gan bobol y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr, ar rwydwaith y gwefannau bro yn yr wythnos ddiwethaf… 

‘Mae’n rhaid i’r mynyddoedd mawr aros!’ 

Dyma hanes Leah, sydd wedi gorchfugu rhwystrau cyflwr calon Hypertrophic Cardiomyopathy. Bellach mae hi wedi dychwelyd i gerdded mynyddoedd i wirfoddoli o fewn Parc Cenedlaethol Eryri fel rhan o gynllun ‘Caru Eryri’. 

Adran Llambed o Ambiwlans Sant Ioan Cymru yn Dathlu Gwasanaeth Llwyddiannus 

Adran Llambed o Ambiwlans Sant Ioan Cymru yn cynnal gwasanaeth yn Eglwys Sant Iago, Cwmann, i ddathlu hanes Sant Ioan a ffydd a gwasanaeth y ddynoliaeth. Codwyd swm anhygoel o £704.20! 

Dathlu Ysgol Gynradd Dihewyd 

Mae Ysgol Dihewyd wedi bod yn ganolog i’r pentref ers 1876, ond ar ôl 148 o flynyddoedd mi fydd drysau’r Ysgol yn cau am y tro olaf ym mis Rhagfyr 2024. Dydd Iau 27 Fehefin cynhaliwyd cyngerdd yn y Neuadd Bentref er mwyn dathlu a chofio bodolaeth yr Ysgol a’r neuadd yn orlawn gyda phobl o bob oed wedi ymuno. 

Straeon lleol poblogaidd yr wythnos 

  1. Diwrnod arbennig brynhawn dydd Sadwrn 29 Mehefin 2024, yng Ngharnifal Ciliau Aeron. Aeron360. 
  1. Gŵyl Mini Ffynnon Garon, yn cynnwys trafodaeth gan Phil Cope, arbenigwr ym maes ffynhonnau sanctaidd Cymru. Caron360. 
  1. Côr Lleisiau Mignedd yn cael blwyddyn brysur a llwyddiant. DyffrynNantlle360.