“Allwn ni gadw’r pethe hyn i fynd?”

Pobol leol yn trafod sut waddol hoffen nhw weld yn eu cymunedau yn dilyn ymweliad y brifwyl

Lowri Jones
gan Lowri Jones
20240803_104101
20240804_150317
Screenshot-2024-08-05-at-17.04.27

Mae rhai o hoelion wyth Rhondda Cynon Taf yn benderfynol o barhau i gynnal digwyddiadau lleol a manteisio ar fwrlwm y paratoi tuag at y brifwyl.

Serch yr wythnos hynod o brysur, daeth criw da ynghyd ar y maes ar bnawn Llun yr Eisteddfod Genedlaethol i sgwrs Ymbweru Bro, lle bu trafod brwd am y gwaddol yr hoffen nhw ei weld yn cael ei adael yn yr ardal wedi’r brifwyl.

Roedd awydd go iawn i barhau â rhai o uchafbwyntiau’r gwaith codi arian a chodi hwyl, a chynnal y momentwm a’r ymdeimlad o berthyn at y dyfodol.

Un o lwyddiannau mawr y gwaith paratoi oedd gweld cynifer o bobol yn troi at y Gymraeg o’r newydd neu’n ailgydio yn yr iaith, diolch i sesiynau anffurfiol i ddysgwyr. Mae awydd gwirioneddol i weld hynny’n tyfu, yn ogystal â pharhau i roi rheswm i bobol wirfoddoli trwy’r Gymraeg, ac mae’n fwriad cynnal ffair wirfoddoli yn yr Hydref ar y cyd â’r Fenter Iaith.

Buom yn dathlu ymdrechion anhygoel unigolion a chymunedau fel ei gilydd – er enghraifft, fe lwyddodd cymuned un cwm yn unig – Cwm Cynon – i gynnal dros 80 o ddigwyddiadau. Anhygoel! Mae rhannu syniadau a chynorthwyo ein gilydd i drefnu digwyddiadau, tyfu aelodaeth corau a phartïon a’i gwneud hi’n haws i bawb wybod beth sy’ mlaen am fod yn waddol pwysig i’r Eisteddfod hon.

Cafodd y potensial o greu gwefan – neu wefannau – bro fel llwyfan Cymraeg i rannu straeon lleol groeso, byddai calendr ar-lein yn handi, ac mae’n werth ystyried creu adnodd neu fap o fudiadau lleol i bawb wybod beth sydd ar gael yn yr ardal.

Mae datblygu’r economi leol yn flaenoriaeth i’r dyfodol hefyd, ac awydd i wneud hynny fwyfwy trwy’r Gymraeg gan godi proffil busnesau sy’n defnyddio’r Gymraeg. Mae tafarn y Lion yn Nhreorci eisoes yn addasu model llwyddiannus digwyddiadau codi arian ar gyfer cynnal gwyliau llai ei hun yn y dyfodol.

Chwilio am y person lleol perffaith

Nod prosiect Ymbweru Bro ydy gweithio gyda phobol a chymunedau Rhondda, Cynon a Thaf i adeiladu ar fwrlwm Eisteddfod Genedlaethol Cymru, trwy ddatblygu adnoddau digidol, datblygu prosiectau a chynnig cefnogaeth i wireddu syniadau.

Y cam nesaf fydd crynhoi pobol leol ynghyd i fwrw ymlaen â rhai o’r syniadau yma. I wneud hynny, mae cwmni Golwg – sy’n rhedeg prosiect Ymbweru Bro – yn awyddus i gyflogi Swyddog Prosiect i arwain y gwaith yn lleol.

Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n adnabod yr ardal a’i phobol yn dda ac sy’n frwd dros gymunedau Rhondda Cynon Taf?

Rhannwch yr hysbyseb swydd â nhw a’u hannog i ymgeisio erbyn hanner dydd, dydd Llun 19 Awst!