Achub y Ring!

Mae angen eich cymorth brys ar ein cymuned i sicrhau dyfodol ein tafarn

Hwb Croesor
gan Hwb Croesor

Mewn cyfarfod cymunedol brys ar y 16eg o Fedi, roedd cefnogaeth aruthrol i’r syniad o ffurfio ‘Menter y Ring’ er mwyn prynu les Y Ring / Brondanw Arms oddi wrth Robinsons i’w rhedeg fel menter gymunedol, gyda’r nod o gan gymryd dyfodol ein tafarn yn ein dwylo ein hunain. Mae Y Ring wedi rhoi cenedlaethau o straeon ac atgofion i ni. Rydym angen eich help i barhau â’r stori honno i’r dyfodol.

Yn y cyfarfod, fe ddechreuon ni ar ein taith i ffurfio Cymdeithas Budd Cymunedol gyda chyfle i bawb brynu cyfranddaliadau yn Y Ring i ddilyn yn fuan.

Fodd bynnag, y mater mwyaf brys (ganddom mond wythnos) y mae angen inni fynd i’r afael ag ef yw sicrhau’r les. I wneud hyn, mae angen i ni sichrhau cefnogaeth ariannol ar ffurf cytundeb benthyciad ffurfiol gan unigolyn neu unigolion fel y gallwn gyflwyno cynnig.

Unwaith y bydd y cynnig hwn wedi’i gyflwyno, byddwn wedyn yn symud ymlaen i ymgyrch gyhoeddus i sicrhau cyfranddaliadau. Os byddwn yn caffdael digon o gyllid drwy’r cyfranddaliadau, ni fydd angen y benthyciad mwyach i sicrhau’r les.

Os ydych chi’n gallu helpu’n ariannol i ganiatâu i’r gymuned gyflwyno cynnig, cysylltwch â ni cyn gyntaf â phosib.

Byddwn yn cyfarfod heno (18.09.24) i drafod y camau nesaf.

Dyma’r cyfle y mae ein cymuned wedi bod yn aros amdano, dim ond ychydig o help sydd ei angen arnom i gychwyn.

Gallwn wneud hyn!

Darllenwch mwy am y sefyllfa yma.

I gynnig benthyciad, cysylltwch â Dafydd, Leonie neu Steff cyn gynted â phosib:

Dafydd Emlyn: 07989426633: dafem819@gmail.com
Leonie Hughes: 07961297022: Leoniejane16@hotmail.co.uk
Steffan Smith: 07354474447: Steffan.smith3@gmail.com

Dweud eich dweud