Ydych chi eisiau gwefan fro?

Bro360 yn agor y drws i ardaloedd ar draws Cymru ddatblygu gwefan straeon lleol

Lowri Jones
gan Lowri Jones
20220806_130240

Bach o hwyl wrth ddyfeisio enwau i wefannau bro newydd!

Bydd Golwg yn cynnal sesiwn wybodaeth ar nos Iau 9 Mawrth i gymunedau ar draws Cymru gael clywed mwy am botensial y gwefannau bro.

Gyda’r 10fed gwefan fro newydd fynd yn fyw, a gyda phob bro yn Arfon a Cheredigion yn berchen ar eu gwasanaeth straeon lleol eu hunain erbyn diwedd y gwanwyn, mae Bro360 yn awyddus i gynnig y cyfle i ardaloedd eraill ymuno.

Gwefannau straeon lleol Cymraeg yw’r gwefannau bro – yn llawn erthyglau, fideos, blogiau byw ac ati gan bobol leol, i bobol leol.

Os hoffech chi:

– glywed mwy am beth yw gwefannau bro a sut gallant fod o fudd i’ch cymuned chi

– gweld sut mae cymunedau eraill wedi elwa o gael lle ar y we i’w mudiadau, busnesau a digwyddiadau

– dechrau ystyried y posibilrwydd o sefydlu gwasanaeth digidol Cymraeg ochr yn ochr â’ch papur bro…

Cofrestrwch i ymuno â’r sgwrs zoom ar nos Iau 9 Mawrth, 6pm.

Sesiwn wybodaeth yw hon, sy’n agored i bawb yng Nghymru. Nid yw ymuno yn y sgwrs yn ymrwymiad i fwrw ati i greu gwefan fro yn y pen draw.

Croeso i bawb!