Tyfu Creuddyn – Y diweddaraf am ddylunio’r gerddi

Mae’r gerddi wrthi’n cael eu dylunio!

gan Sara Jones

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod ein gerddi yng nghanolfan fenter Creuddyn wrthi’n cael eu hailddylunio, sy’n newyddion cyffrous.

Maent yn cael eu trawsnewid gan Kim Stoddart, sy’n newyddiadurwr, yn awdur, yn hyfforddwr ac yn ddylunydd arobryn lleol. Bydd cynnyrch y gellir ei fwyta’n cael ei dyfu ynddynt, a byddant yn gallu gwrthsefyll effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

Ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid yn y gymuned leol, bydd y gerddi’n cynnwys amrywiaeth o ffrwythau a llysiau y gellir eu bwyta yn ogystal ag ardal gompost a bywyd gwyllt. Byddant yn defnyddio graean lleol, llawer o blanhigion parhaol, a llysiau, perlysiau a deiliach y gellir eu pigo ac a fydd yn tyfu eto. Byddant hefyd yn cynnwys ardaloedd ar gyfer coed afalau a ffrwythau meddal.

Maent yn cael eu dylunio fel eu bod yn cynnig lle cynhyrchiol deniadol, hawdd gofalu amdano, ar gyfer canolfan fenter Creuddyn. Byddant hefyd yn darparu cyfleoedd i fanc bwyd y gymuned leol bigo cynnyrch, gyda help ein garddwyr gwirfoddol brwdfrydig a phobl eraill.

Meddai Julia Lim o Fwyd Bendigedig Llambed ac Incredible Edible:

Mae’r banc bwyd/Rydym ni yn edrych ymlaen at y posibilrwydd o alluogi ein cleientiaid i bigo cynnyrch eithriadol o ffres fel ffordd o ychwanegu at yr hyn yr ydym ni’n ei ddarparu, ac ar adegau eraill hefyd. Yn ogystal, bydd yn braf cael gardd gymunedol yn y dref, lle gall pobl weld sut mae tyfu bwyd mewn lle y mae’n hawdd gofalu amdano ac mewn ffordd sy’n golygu eu bod yn ystyried yr hinsawdd ac yn lleihau’r angen i ddyfrhau.”

Rydym yn bwriadu lansio’r gerddi newydd ganol mis Mehefin (yn dibynnu ar y tywydd). Cewch ragor o newyddion a lluniau’n fuan.

Mwy o wybodaeth am Kim Stoddart

Rwy’n newyddiadurwr, yn olygydd, yn awdur, yn ddylunydd gerddi ac yn hyfforddwr arobryn. Rwy’n byw ger Ceinewydd yng Ngheredigion ac rwyf wedi bod yn ysgrifennu ers 2013 i gyhoeddiadau megis The Guardian a chylchgrawn Gardeners’ World am bopeth sy’n ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd a dulliau cydnerth o dyfu bwyd. Rwy’n gyd-awdur y llyfr The Climate Change Garden ac rwy’n addysgu pobl o’m gerddi hyfforddi ac o amgylch y DU ar gyfer sefydliadau megis Garden Organic, y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yma: www.greenrocketcourses.com

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Ar Lafar -Digwyddiad i oedolion sy’n dysgu Cymraeg

10:00, 20 Ebrill (Mynediad am ddim. (mae rhai gweithgareddau yn talwch beth allwch chi))

Eisteddfod Gadeiriol Y Ffor

12:00, 20 Ebrill (Prynhawn a hwyr: Oedolion £3.00 Plant 50c. Tocyn dydd £5.00)