Tips ar olygu straeon ar wefannau bro

Canllaw handi i olygyddion – diweddariad Tachwedd 2023

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae modd i unrhyw berson lleol sydd wedi creu cyfrif ar eu gwefan fro greu drafft o stori. Fel criw o olygyddion lleol, chi sydd â’r grym cyffrous o bwyso’r botwm Cyhoeddi!

Chi, hefyd, sy’n gallu troi stori arferol yn stori dda – dyma rai cynghorion ar sut mae bod yn olygydd effeithiol…

Golygydd syml – gwneud bywyd yn syml!

Ewch i’r stori trwy’r ebost, a dewis y botwm ‘golygydd syml’. Mae golygu yn y ‘pen blaen’ fel hyn yn ffordd well o olygu stori gafodd ei chreu yn wreiddiol yn y pen blaen gan y cyfrannwr.

Dyma’r lle gorau i addasu lluniau. Gallwch newid trefn lluniau yma, ac felly dewis llun gwahanol yn brif lun os oes angen. Cliciwch ar y lluniau i newid pa ran o’r llun sy’n ymddangos ac addasu’r capsiwn. 

 

Tynnu sylw o’r cychwyn cyntaf

Wrth ddarllen ar sgrîn ffôn, dim ond 3 eiliad mae pobol yn aros cyn penderfynu ydyn nhw am ddarllen mlaen neu symud i’r peth nesaf.

Gallwch chi fel golygydd helpu i hawlio sylw’r darllenydd, trwy roi eich sylw ar ran pwysicaf y stori, sef y dechrau.

  • Pennawd – Mae angen i hwn ddweud yn glir beth yw’r stori a bachu sylw’r gynulleidfa. Peidiwch â cheisio bod yn rhy glyfar. Peidiwch, chwaith, â bod ofn newid y pennawd i roi bywyd iddo. Weithiau gall ychwanegu berf wneud byd o wahaniaeth.
  • Crynodeb – Dyma’r frawddeg fach sy’n ymddangos dan y pennawd ar hafan eich gwefan fro. Newidiwch hwn os oes modd cynnig manylion ychwanegol am y stori yma.
  • Y frawddeg neu ddwy gyntaf – mae angen darn mwyaf trawiadol y stori yn y fan yma. Byddai “Bydd pwll nofio’r dref yn cau yn y gwanwyn” yn frawddeg gyntaf well na “Bu’r Cyngor Trefn yn cyfarfod nos Fercher 6 Rhagfyr”, er enghraifft.

 

Cywiro a newid trefn testun

Wrth olygu’r testun, gallwch ddefnyddio’r botwm Cysill i’ch helpu i weld teipos, a’r botwm to bach i’ch helpu i osod toeon sydd ar goll.

Mae’r botwm ‘dolen’ yn handi – os oes rhywun eisiau rhannu dolen i weld arall, uwcholeuwch y testun a chopïo’r URL mewn fan hyn, bydd yn edrych yn daclusach na dolen hir yng nghanol y testun.

Cywirwch gamgymeriadau, ond mae’n siŵr y byddwch eisiau cadw’r dafodiaith – cofiwch mai pobol leol yw’r gynulleidfa hefyd.

Bydd llawer o ddarllenwyr yn darllen ar sgrîn fach y ffôn, felly rhannwch y stori’n baragraffau bach (un neu ddwy frawddeg ar y mwyaf) er mwyn helpu’r llygad i ddarllen ymlaen.

Peidiwch â bod ofn newid trefn y stori. Chi yw’r golygydd, a’ch swydd chi yw meddwl am y darllennydd – beth fyddai’r ffordd fwyaf diddorol i gyflwyno’r stori iddyn nhw?

A thorrwch unrhyw jargon allan, a byddwch yn gryno!

 

Os am olygu ym mhen cefn WordPress – ble mae popeth?

Byddwch chi, fel pawb arall, yn sgwennu eich straeon gwreiddiol yng ngwedd syml y gwefannau bro – trwy fynd i’r botwm Creu > Stori.

Ond pan fyddwch yn golygu stori rhywun arall, byddwch yn dilyn y neges ebost i ben cefn WordPress, sy’n cynnig ambell opsiwn ychwanegol i chi fel golygyddion.

Dyma’r prif bethau y byddwch eu hangen yn WordPress:

  • mae straeon eich gwefan fro i gyd dan y tab ‘Cofnodion’ (lawr yr ochr chwith)
  • bydd straeon sydd angen eu golygu’n ymddangos ’dan ystyriaeth’
  • gallwch addasu’r testun yn y prif flwch, y pennawd a’r crynodeb
  • methu gweld ble mae’r crynodeb? Sgroliwch lawr, bydd o dan y prif focs testun os ydych ar gyfrifiadur; neu ar y gwaelod un wrth sgrolio ar sgrîn ffôn
  • cliciwch ar y prif lun (delwedd nodwedd) i weld oes angen golygu capsiwn
  • NEWYDD: dewiswch pa gategori sy’n fwyaf addas i’ch stori, e.e. chwaraeon, hanes, newyddion
  • gofalwch i beidio â newid y llinell enw, mae angen i hwnnw barhau i ddangos enw’r person grëodd y stori
  • eich ffrind gorau yw’r botwm ‘rhagolwg’ – defnyddiwch hwn i wirio sut bydd y stori’n edrych cyn…
  • pwyso’r botwm ‘cyhoeddi’!

 

Pwysig!

Cofiwch mai dim ond wrth olygu stori rhywun arall y dylsech fynd i ben cefn WordPress.

Er mwyn llwytho lluniau a fideos yn llwyddiannus mewn ffordd sy’n cadw at reolau hawlfraint, bydd angen i chi greu unrhyw straeon gwreiddiol eich hunain trwy’r pen blaen, sef dilyn y botwm Creu > Stori ar dop y sgrîn.