Taith gerdded i Moel Famau

Rhan o brosiect ‘Ein gerddi cudd’

Dr Sara Louise Wheeler
gan Dr Sara Louise Wheeler

Dwi’n credu taw tua 1986 oedd y tro cyntaf i mi ddod yn ymwybodol o ‘Moel Famau’, sef parc gwledig ‘Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy’.

Roedd pawb yn y dosbarth wedi bod wrthi’n cnocio ar ddrysau’r cymdogion, gyda ffurflen noddi, yn hel llofnodion noddwyr a’u hannog i dalu 50c neu bris tebyg, os oedden ni’n llwyddiannus yn ein menter o ddringo un o’r bryniau.

Os dwi’n cofio’n iawn, dim ond rhyw chwarter ffordd i fyny’r bryn oedd gennym mewn golwg, ac mi roedd hynny’n ddigon pell!

Es i nôl ar hyd y blynyddoedd, gyda’r tro diwethaf, os dwi’n cofio’n iawn, tua 1994, fel rhan o fy ngweithgareddau Dug Caeredin.

Ond wrth i brysurdeb gradd, dechrau gyrfa… diwedd gyrfa ac ailadeiladu gymryd mwy a mwy o fy amser, rhywsut neu’i gilydd es i byth yn ôl, ac mae hynny’n biti gan fod Moel Famau yn rhan o dirlun fy nghof a’m dychymyg.

Yna gwelais yn ddiweddar bod Natasha Borton ac Anastacia Ackers wedi trefnu taith gerdded ene fel rhan o’r prosiect ‘Ein gerddi cudd’, a phenderfynais ei bod yn bryd i mi ailgysylltu hefo fy nhirlun.

Ein gerddi cudd

Natasha Borton ac Anastacia Ackers sy’n gyfrifol am drefnu sawl agwedd o’r sîn lenyddol yn Wrecsam, gan gynnwys y nosweithiau ‘Meic agored’ yn Nhŷ Pawb bob mis. Maent yn ‘movers and shakers’ go iawn yn ninas Wrecsam!

Mi wnaethant gais grant llwyddiannus i Lenyddiaeth Cymru, mewn cysylltiad â Cyfoeth Naturiol Cymru. Trefnwyd cyfres o ddigwyddiadau gan gyfuno’r celfyddydau a llesiant, er mwyn y gymuned; mae’r rhain wedi cynnwys cyfres o weithdai allan yn Rhosymedre, a’r daith gerdded yma.

Un o’r pethau gorau am y prosiect, yn fy marn i, yw’r ffaith ei fod yn ennyn diddordeb ac ymwybyddiaeth o wyrddni a phrydferthwch Wrecsam a Sir y Fflint, ac mae Rhosymedre a Moel Famau yn enghreifftiau da o hyn.

Ystyried am y tro cyntaf

Un o’r pethau ‘take home’ i mi oedd y ffaith nad oeddwn wedi cwestiynu na hyd yn oed ystyried rhai o’r manylion fwyaf basic cyn y daith gerdded hon. Dwi’n cofio sefyll nesaf i’r adfeilion o adeilad carreg du ar ben y mynydd nol yn 1995… ond heb ystyried beth oedd o!

Cawsom drafodaeth fach am hyn, gan ddarllen y wybodaeth oedd ar gael a chael sbec ar y wê, ac yn y bôn, cafodd ei adeiladu i anrhydeddu jiwbilî aur Brenin Siôr III. Mae’n adeilad trawiadol hefo diosg clir o’r het i estheteg yr Aifft… manylion aeth dros fy mhen y tro diwethaf fues i yma.

Doeddwn heb hyd yn oed ystyried yr agwedd onomasteg, sydd bach yn sarhaus o ‘sidro fy niddordeb yn y maes! Cawsom drafodaeth am hyn ac er ei bod yn weddol amlwg wrth feddwl, dwi’n styried sbio mewn iddo mhellach ac ella sgwennu rhywbeth amdano.

Gwledd i’r corff a’r enaid

Buom yn gwneud un neu ddau o ymarferion ysgrifennu, gan gynnwys un yn dychmygu beth allai fod y tu hwnt i’r niwl trwchus oedd yn cuddio’r olygfa o ben y bryn. Yn ogystal â bodloni ein chwilfrydedd a rhoi ysbrydoliaeth ysgrifennu, roedd dringo’r bryn yn ymarfer corff da i ni i gyd.

Gwelais fawr ddim bywyd gwyllt ene, ond mi wnes i weld Mr Urdd yn loetran yn y niwl!

Dyma rannu hefo chi rai o’r lluniau gymerais ar y diwrnod.